Cliciwch yma os na allwch weld lluniau neu destun  | Click here for the English version | www.hlf.org.uk

eFwletin
Gorffennaf 2008

YN Y RHIFYN HWN
ADEILADAU HANESYDDOL YN DERBYN £23 MILIWN
DATGELU BLYNYDDOEDD CYNNAR LEWIS CARROLL
CARTREF NEWYDD I ARCHIFAU’R DIWYLLIANT DU

HLF

Mary Rose

Adeiladau hanesyddol annwyl yn derbyn £23 miliwn

Ar ôl cylch gordanysgrifiedig o benderfyniadau ariannu, mae CDL wedi clustnodi dros £7 miliwn i adfer dau adeilad hanesyddol amlwg – yn Bolton, gogledd-orllewin Lloegr, a Llanelli, De Cymru. Mae’r Gronfa hefyd wedi cadarnhau dros £16 miliwn o grantiau i bedwar adeilad hanesyddol arall.

Chwith: Tŷ Llanelly, Llanelli

Darllenwch fwy >>>

Hospital memories

Hwb gan y Titanic i gasgliadau amgueddfeydd

Mae dros 20 o amgueddfeydd ac orielau ar draws y DU – o Amgueddfa Werin a Thrafnidiaeth Ulster i Amgueddfa Sir Dorset – wedi derbyn £3 miliwn mewn grantiau dan fenter datblygu casgliadau CDL. Mae’r arddangosfeydd sydd wedi elwa yn cynnwys bagbibau o’r 18fed ganrif a phethau cofiadwy o’r Titanic.


Chwith: Llun o'r Titanic, Amgueddfa Werin a Thrafnidiaeth Ulster

Darllenwch fwy >>>

Indian sign

Datgelu blynyddoedd cynnar Lewis Carroll

Bydd Daresbury – y pentref yn Swydd Gaerlleon lle ganwyd Lewis Carroll – yn cael canolfan ymwelwyr wedi’i neilltuo i’r awdur, diolch i grant o £371,000. Bydd y ganolfan yn helpu i ymdopi â diddordeb gan ymwelwyr â’r pentref, lle cafodd Carroll ysbrydoliaeth ar gyfer ei waith.

Chwith: Ffenestr gwydr lliw yn Eglwys yr Holl Saint Daresbury yn coffáu canmlwyddiant genedigaeth yr awdur

Darllenwch fwy >>>

Sydney Harbour Bridge

Cartref newydd i Archifau’r Diwylliant Du
 
Bydd Neuadd Raleigh yn Brixton, Llundain, sy’n dadfeilio yn cael ei hadfer gyda £4 miliwn gan CDL er mwyn rhoi cartref parhaol i gasgliad Archifau’r Diwylliant Du o ddeunydd hanesyddol ar Brydain ddu a’r Affricanwyr alltud.

Chwith: Llun o Mike Eghan, Gwasanaeth Affricanaidd y BBC, a ddelir gan Archifau’r Diwylliant Du © James Barnor, 1965

Darllenwch fwy >>>
 

Heritage hero's

Enillydd ‘Restoration’ yn ailagor

Ailagorodd y Saracen’s Head a’r Hen Ysgol Ramadeg hanesyddol yn Kings Norton, Birmingham, ym mis Mehefin. Cafodd yr adeiladau, a enillodd ail raglen ‘Restoration’ BBC Dau yn 2004, eu hadfer gyda chymorth gan CDL, English Heritage, gwylwyr ‘Restoration’ a’r eglwys blwyf leol.

Darllenwch fwy >>>

Thames Gateway

Taflu goleuni ar dreftadaeth Woking

Hi oedd yr unig dref yn Surrey heb amgueddfa ar un adeg, ond bellach mae gan Woking enillydd Gwobr y Gronfa Gelf. Cipiodd amgueddfa ac oriel ‘Lightbox’ – a grëwyd ym 1998 gyda chymorth gan bobl leol, CDL a nifer o rai eraill – wobr 2008 ym mis Mai.


Hawlfraint y ddelwedd Kim Labithiotis

Read more on the Art Fund Prize 2008 website >>>

THI

San Steffan yn ymateb i her Portread o Genedl

Yn gynharach y mis hwn fe roddodd pobl ifanc o Bradford adroddiad i ASau yn San Steffan ar eu gwaith yn archwilio diwydiant gwehyddu’r dref fel rhan o Bortread o Genedl – ymgyrch a gefnogir gan CDL a 17 o ddinasoedd partner ar draws y DU i roi cyfle i bobl ifanc rannu’r hyn y maent yn ei chael yn arbennig am eu diwylliant, eu cymuned a’u hunaniaeth leol.

Dewch i wybod mwy am yr ymweliad a Phortread o Genedl >>>

THI

Diddordeb yn y ddadl ar Brydeindod?

Dewch i ddarlith gan Gadeirydd CDL Liz Forgan, sy’n edrych yn ôl dros saith mlynedd yn y Gronfa ac yn trafod pam y mae gan dreftadaeth, nid cysyniad o Brydeindod wedi’i seilio ar werthoedd, y grym i ddod â chymunedau at ei gilydd a meithrin hunaniaeth genedlaethol gref a chynhwysol.

Manylion: 9 Medi, Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, Llundain.

Darllenwch fwy am y digwyddiad >>>

Awarding funds

Ynglŷn â ni
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn galluogi cymunedau i ddathlu, gofalu a dysgu mwy am dreftadaeth amrywiol y DU. O amgueddfeydd, adeiladau hanesyddol a gwarchodfeydd natur i archaeoleg, adeiladau a thraddodiadau diwylliannol, rydym wedi dyfarnu mwy na £4 biliwn i brosiectau sy’n agor ein treftadaeth fel y gall pawb ei mwynhau. I ddarganfod mwy ewch i www.hlf.org.uk.

Nid yw CDL yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol
© 2008 Cronfa Dreftadaeth y Loteri
Tanysgrifio i’r eFwletin hwn