Trysori ein treftadaeth - Buddsoddi yn ein dyfodol
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) yn cynnal a thrawsnewid ein treftadaeth trwy ddefnyddio arian a godir drwy'r Loteri Genedlaethol. Rydym yn buddsoddi ym mhob rhan o'n treftadaeth amrywiol - o amgueddfeydd, parciau a llefydd hanesyddol i archaeoleg, bywyd gwyllt a thraddodiadau diwylliannol ac ieithyddol.
Rydym newydd wedi lansio ein Cynllun Strategol 2008 - 2013 gyda phrosesau ymgeisio symlach a mwy o gymorth i ymgeiswyr. Dros y 5 mlynedd nesaf byddwn yn buddsoddi tua £1biliwn mewn prosiectau treftadaeth y gall pawb gymryd rhan ynddynt, dysgu oddi wrthynt a'u mwynhau.