Heritage Lottery Fund homepage
21/11/2008 Hafan>Pwy ydym ni?>Penderfynwyr a rheolwyr>Pwyllgor Cymru>Pwyllgor Cymru
Pwy ydym ni?
Ein cefndir
Beth rydym yn ei wneud?
Sut rydym yn gweithio
O ble y daw ein harian?
Penderfynwyr a rheolwyr
Ymddiriedolwyr
Uwch reolwyr
Pwyllgor Cymru
Sut i ymgeisio  Yn eich ardal chi  Canolfan Cyfryngau  Cyhoeddiau a gwybodaeth 


Pwyllgor Cymru


Dan Clayton Jones (Is-Gadeirydd CGDG a CDL, Ymddiriedolwr CGDG, Cadeirydd Pwyllgor Cymru)
Ganwyd Dan Clayton Jones yn Y Porth, Cwm Rhondda, Cymru. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Y Bont-faen, Coleg Llanymddyfri, Sir Gâr, a King’s College, Prifysgol Llundain, ble astudiodd y gyfraith, a chafodd Ysgoloriaeth E.S.U. i astudio yn America.

 

Dechreuodd ei yrfa ym maes marchnata gyda Ford Europe fel Cynorthwy-ydd Personol i’r Dirprwy Lywydd Marchnata, wedi’i leoli ym Mrwsel. Yn ystod y deuddeg mlynedd nesaf, cafodd uwch swyddi marchnata gyda Bwrdd Croeso Cymru (Rheolwr Marchnata) a Rank Organisation (Cyfarwyddwr Marchnata’r Adran Hamdden).

 

Yng nghanol yr 80au, mewn partneriaeth â’i frawd, sefydlodd Crown & Co yn Ne Cymru, a gwerthodd ei ddiddordeb i Royal Insurance Pic ym 1990. Mae’n Gyfarwyddwr ar Cord Investments Ltd a J.J. & F Property Holdings Ltd, sy’n gwmnïau eiddo hamdden a masnachol.

 

Mae wedi cefnogi treftadaeth Cymru drwy gydol ei oes, a bu’n Ysgrifennydd ar Gymdeithas Tai Hanesyddol Cymru am 12 mlynedd, ac mae’n Aelod Oes a gyfrannodd at sefydlu’r Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol. Bu Dan yn Ddirprwy Gadeirydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru ac ef oedd Cadeirydd cyntaf Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, prosiect gwerth £44 miliwn. Yn y tair blynedd diwethaf, mae wedi cadeirio Ymddiriedolaeth Cadw Adeiladau Hendref, Ymddiriedolaeth Gardd Berlysiau’r Bontfaen ac mae’n Ganghellor Urdd Sant Ioan yng Nghymru.  Bu’n gyn Uwch Siryf ei Sir, ac ers 1999 mae wedi bod yn Gonswl Anrhydeddus dros Ganada yng Nghymru, ac fe’i wnaethpwyd yn Ddirprwy Raglaw Morgannwg Ganol yn 2001.  Hefyd, mae’n Gadeirydd o Prime Cymru (un o grŵp o elusenni Tywysog Cymru).

 

Jo Coles
Mae gan Jo brofiad helaeth o weithio gyda chymunedau a gwirfoddolwyr yn yr amgylchedd naturiol ac adeiledig ledled Cymru. Fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Pwyllgor Tywysog Cymru, roedd yn gyfrifol am ystod o raglenni grant a anelwyd at warchod, ehangu ac adfywio amgylchedd Cymru a gweithiodd gydag Asiantaeth Datblygu Cymru; Y Bwrdd Croeso; a’r Swyddfa Gymreig ar ystod o fentrau oedd yn cefnogi ein treftadaeth genedlaethol.

 

Bu’n Ymgynghorydd Gŵyl dros Gymru yn ystod Gŵyl y Mileniwm, ac fel Cydlynydd Gwirfoddolwyr y Mileniwm dros Gymru, roedd yn gyfrifol am raglen oedd yn annog a chefnogi pobl ifanc i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau gwirfoddol yn eu cymunedau. Mae’n gweithio ym maes addysg fel Rheolwr Datblygu ContinYou, y prif sefydliad dysgu DU-eang ac mae hi hefyd yn Aelod Bwrdd Ymddiriedolaeth GIG Felindre.

 

Lindsay Cuddy (Dip TP, Dip ArchCons Bryste, MA, MRTPI, IHBC)
Mae Lindsay Cuddy yn arwain Tîm Cadwraeth Adran Cynllunio Strategol Cyngor Sir Caerdydd. Mae’r tîm yn paratoi polisïau a chanllawiau ar yr amgylchedd adeiledig hanesyddol ac yn gweithio gydag eraill i sicrhau ei fod yn cael ei warchod a’i ehangu yn ystod gwaith datblygu neu adfywio. Hefyd, mae Lindsay yn gweithio gyda grwpiau gwirfoddol wrth godi ymwybyddiaeth o’r amgylchedd adeiledig hanesyddol: trwy fentrau lleol, gwerthuso ardaloedd cadwraeth ac archwiliadau adeiladau hanesyddol.

 

Mae Lindsay wedi gweithio yng Nghymru ers dros ugain mlynedd, yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Mae’n gynllunydd tref siartredig, ac wedi cwblhau astudiaethau ôl-raddedig mewn dylunio trefol a chadwraeth bensaernïol. Mae’n aelod o’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol a’r Sefydliad Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol.

 

Carol Greenstock
Mrs Carol Greenstock yw Rheolwr Grantiau Ymddiriedolaeth Genedlaethol y DU, a chanddi gyfrifoldeb arbennig dros Gymru. Mae wedi gweithio i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ers 27 mlynedd ac mae’r profiad y mae wedi’i gael o hyn wedi rhoi ymwybyddiaeth iddi o dreftadaeth, diwylliant ac amgylchedd Cymru a’r angen i warchod y rhain i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau. Mae ei gwaith o fewn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi sicrhau dichonoldeb llawer o brosiectau adfywio pwysig yng Nghymru. Mae ei rôl wedi rhoi’r cyfle iddi weithio gyda llawer o grwpiau cymunedol lleol yng Nghymru ac mae’n credu’n gryf mewn rhoi’r grym i bobl leol helpu eu hunain. Enghraifft o hyn yw’r prosiect a ariannwyd drwy Amcan-1 i adfywio’r Neuadd Bentref haearn rhychiog yng Nganllwyd, ger Dolgellau, i warchod y pensaernïaeth gyffredin, gwella amgylchedd y pentref a rhoi cyfleoedd economaidd, hyfforddiant a chymdeithasol hollbwysig i’r pentref.

 

Ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, arweiniodd y bartneriaeth o sefydliadau a ddarparodd yr astudiaeth effaith economaidd, ‘Gwerthfawrogi ein Hamgylchedd’; astudiaeth sydd wedi’i werthfawrogi’n fawr yng Nghymru ac sydd wedi arwain at ymwybyddiaeth uwch o’r amgylchedd fel gyrrwr economaidd. Yn y Rhaglen Amcan 1, cadeiriodd Mrs Greenstock y Bartneriaeth Strategaeth Asedau Gwledig Amcan 1 ac o ganlyniad bu’n aelod o’r Grŵp Thematig Gwledig (TAG5), yn ogystal â chynrychioli materion gweldig ac amgyclheddol ar y Pwyllgor Monitro Rhaglenni Amcan 1.

 

Mae’n aelod o’r Bartneriaeth Bwyd-Amaeth a nifer o bartneriaethau datblygu economaidd lleol. O ganlyniad i’w diddordeb mewn a’i gwybodaeth o Gymru wledig, cafodd ei phenodi’n aelod o Grŵp Ffrwd Gwaith Llywodraeth Cynulliad Cymru oedd yn edrych ar y Rhaglen Cronfeydd Strwythurol (2007-2013) newydd a chyfrannodd at adran Adfywio Cymunedau Gwledig y Fframwaith Cyfeirio Strategol Cenedlaethol. Hefyd, mae hi ar y gweithgor sy’n edrych ar Atodiadau 3 a 4 Cynllun Datblygu Gwledig Llywodraeth Cynulliad Cymru ac mae’n aelod o Bwyllgor Monitro’r Rhaglen Cynllun Datblygu Gwledig. Yn ddiweddar, cafodd Mrs Greenstock ei phenodi i’r Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cronfeydd Strwythurol Cymru Gyfan fel un o 10 o arbenigwyr yng Nghymru ar y Pwyllgor hwn. Mae’r penodiad yma’n adlewyrchu ei diddordebau arbennig yn  sector yr amgylchedd a’r sector gwirfoddol, a’i diddordeb cryf mewn materion gwledig.

 

Mae Mrs Greenstock yn athrawes cymwys, gan arbenigo mewn addysg i oedolion, ac mae hi wedi dysgu Cymraeg i safon lefel A, a bu gynt yn dysgu Cymraeg i oedolion ar ran Prifysgol Llambed.

 

Natasha Hirst
Ar hyn o bryd, mae Natasha’n rheoli’r prosiect Cydraddoldeb yn y Gwaith i TUC Cymru, a daw o gefndir cymysg trwy ei gweithgareddau gwaith a gwirfoddol.
 
Yn dilyn diddordeb personol mewn treftadaeth a phensaernïaeth, ynghyd â hanes maith o gymryd rhan yn y gymuned, mae Natasha’n credu’n gryf ym mhwysigrwydd perchnogaeth gynhwysol, gymunedol dros roi’r grym i ac adfywio cymunedau lleol. Fe’i ganwyd yn fyddar, ac o ganlyniad mae Natasha bob tro wedi ymddiddori mewn materion cydraddoldeb a mynediad, a dechreuodd ddysgu Iaith Arwyddion Prydain yn ei hugeiniau cynnar. Graddiodd Natasha o Brifysgol Caerdydd gyda Gradd Meistri Dosbarth 1af mewn Cemeg, ac aeth ymlaen i wneud Ph.D mewn Cemeg Ffisegol, y mae hi’n ei ysgrifennu ar hyn o bryd.


Fel gwirfoddolwr i nifer o elusennau a phrosiectau ers ei hugeiniau cynnar, mae Natasha wedi gweithio gydag unigolion a grwpiau cymunedol sy’n wynebu anfantais a rhwystrau o fewn y gymdeithas. Bellach, mae’n gwirfoddoli fel aelod o staff i elusen o’r enw ‘Treasure Trove’, sy’n gweithio gyda phobl ifanc a chanddynt anableddau neu beidio i redeg wythnos gweithgareddau preswyl gwbl gynhwysol bob haf.

 

Mae ei gyrfa wedi symud o wyddoniaeth i wleidyddiaeth, fel Llywydd NUS Cymru; i archwiliad perfformiad gyda Swyddfa Archwilio Cymru; ac yn olaf i faes cydraddoldeb gyda TUC Cymru. Bu’n gweithio am ddwy flynedd fel arsylwr i Fwrdd yr Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd ac ar hyn o bryd  mae’n aelod o Weithgor Cwricwlwm Hygyrch Prifysgol Caerdydd, gan gadw ei diddordeb mewn mynediad at addysg i bob grŵp.

 

Gwilym Eifion Pritchard
Cafodd Eifion Pritchard ei addysg yn Ysgol Ramadeg Y Rhyl ac yn Ysgol Cadetiaid HMS Conway. Ar ôl gwasanaethu ar y môr fel swyddog mordwyo gyda’r Cunard Line, ymunodd â Heddlu Sir Ddinbych fel heddwas. Datblygodd yn gyflym trwy’r rhengoedd a daeth yn gomander rhanbarthol ar ranbarth Wrecsam ac yna ar ranbarth Caernarfon cyn cael ei benodi’n Brif Cwnstabl Cynorthwyol Heddlu Dyfed Powys, ac ymddeolodd o’r Heddlu yn Ddirprwy Brif Cwnstabl ym 1998.

 

Wedi iddo ymddeol, cafodd ei benodi’n gadeirydd yr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymraeg newydd, swydd a fu ganddo am bedair blynedd ac yna cafodd ei benodi’n gadeirydd ar Bwyllgor Cymraeg Cyngor Defnyddwyr y Gwasanaethau Post (Postwatch) , swydd y mae’n dal i’w gwneud. Mae Mr Pritchard yn Gadeirydd ymddiriedolwyr Relate Canolbarth a Gorllewin Cymru.

 

Mae ganddo radd mewn seicoleg ac mae’n Gymrawd o’r Sefydliad Rheoli Siartredig. Yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd ym 1997, rhoddwyd Fedal Heddlu’r Frenhines (QPM) iddo.

 

Gall Mr Pritchard siarad Cymraeg yn rhugl, ac mae’n ŵr gweddw a chanddo ddwy ferch a dwy wyres.

 

Dei Tomos
Bydd bywgraffiad Dei Tomos ar gael yma cyn bo hir.

 

Ruth Waycott
Mae Ruth Waycott yn Ymgynghorydd Twristiaeth ac ysgrifennydd ar ei liwt ei hun. Sefydlodd wasanaeth ymgynghori ym 1999, sy’n arbenigo yn y sectorau twristiaeth, treftadaeth ac amgueddfeydd. Mae wedi gweithio ar lawer o brosiectau treftadaeth a thwristiaeth i gleientiaid o fewn y sector cyhoeddus ac wedi ysgrifennu erthyglau ar gyfer cyhoeddiadau’r diwydiant.

 

Cyn 1999, bu Ruth yn gweithio am 10 mlynedd o fewn adrannau Twristiaeth Awdurdod Lleol. Roedd yn rhan o ddatblygu’r amgueddfa hanes byw arbennig yn Llancaiach Fawr ger Nelson, maenordy rhannol caerog  Rhestredig Gradd II o’r Ail Ganrif ar Bymtheg. Hefyd, bu’n rhan o nifer o gynlluniau datblygu prosiect yng Nghymoedd De Cymru gan gynnwys Amgueddfa Cwt Weindio Pwll Glo Elliot, Amgueddfa Drenewydd yn Nhrebiwt, Canolfan Cefn Gwlad Ynys Hywel, Canolfan Ymwelwyr Cwmcarn Forest Drive a Chanolfan Ymwelwyr Caerffili. Hefyd, treuliodd amser ar secondiad gydag Uned Ymchwil a Chynllunio Corfforaethol Bwrdd Croeso Cymru.

 

Mae gan Ruth BSc. Econ. mewn Daearyddiaeth/ Astudiaethau Americanaidd o Brifysgol Coleg Cymru, Abertawe ac MSc. mewn Astudiaethau Twristiaeth o Brifysgol Surrey  a Diploma mewn Marchnata o’r Sefydliad Marchnata Siartredig.


Rhwng 1995 - 1997 Ruth oedd Ysgrifennydd Cymdeithas Swyddogion Twristiaeth Cymru ac o 1993 i 1998 bu’n Gyfarwyddwr Awdurdod Lleol ar Fwrdd Twristiaeth De a Gorllewin Cymru. Bu’n aelod o’r Gymdeithas Twristiaeth ers 1988.

 




ADNODDAU CYMRU
  • Gwybodaeth Cymru
  • Proffil y rheolwraig

  • PWYLLGORAU ERAILL