Heritage Lottery Fund homepage
21/11/2008 Hafan>Pwy ydym ni?>Ein cefndir>Beth rydym yn ei wneud?
Pwy ydym ni?
Ein cefndir
Beth rydym yn ei wneud?
Sut rydym yn gweithio
O ble y daw ein harian?
Penderfynwyr a rheolwyr
Ymddiriedolwyr
Uwch reolwyr
Pwyllgor Cymru
Sut i ymgeisio  Yn eich ardal chi  Canolfan Cyfryngau  Cyhoeddiau a gwybodaeth 


Beth rydym yn ei wneud?


Cronfa Dreftadaeth y Loteri yw prif ariannwr ein treftadaeth amrywiol yma yn y DU, a’r unig sefydliad treftadaeth sy’n gweithredu ar draws Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban, ac sy’n ariannu holl ledaeniad treftadaeth – gan gynnwys adeiladau, amgueddfeydd, treftadaeth naturiol a threftadaeth traddodiadau diwylliannol ac iaith. 

 

Rydym yn helpu grwpiau a sefydliadau o bob maint â phrosiectau sy’n:

·           annog mwy o bobl i ymwneud â’u treftadaeth, a gwneud penderfyniadau 

·           gwarchod a gwella treftadaeth amrywiol y DU

·           sicrhau y gall pawb ddysgu am, cael mynediad i, a mwynhau eu treftadaeth.

 

Ein nod yw cefnogi gwaith a gynllunnir i ofalu am y dreftadaeth, ac i gynorthwyo pobl i’w phrofi a’i mwynhau.  Er enghraifft:

 

·           Atgyweirio adeiladau a gwaith cadwraeth

·           Prynu eitemau, tir neu adeiladau sy’n bwysig i’n treftadaeth

·           Ei gwneud yn haws i bobl gael mynediad i’w treftadaeth

·           Cynyddu’r dysgu am gofnodi a chadw ein treftadaeth

·           Ehangu cyfranogiad ymysg pobl o bob oedran ac o bob cefndir – yn enwedig pobl o gymunedau nad ydynt wedi bod yn gysylltiedig â threftadaeth o’r blaen.

 

Ers 1994, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi dyfarnu £4 biliwn i fwy na 26,000 o brosiectau ledled y DU.  Y llynedd, roedd pedwar o bob pump o’n grantiau ar gyfer symiau’n llai na £50,000, llawer yn mynd i grwpiau cymuned bach.  Ein grant mwyaf erioed oedd £26 miliwn i adnewyddu camlas hanesyddol Kennett ac Avon sy’n rhedeg rhwng Reading a Bryste.

Am ragor o wybodaeth am geisio am grant CDL, ewch i Sut i Ymgeisio.

Bressay Lighthouse, Shetland
Goleudŷ Bressay, Shetland


CYNLLUNIAU CORFFORAETHOL
  • Busnes PDF document 225 KB
  • Strategol PDF document 5 MB

  • CYNGOR ARBENIGOL