Mae’r Loteri Genedlaethol yn codi arian ar gyfer ystod o achosion da sydd o fudd i gymunedau ledled y Deyrnas Unedig.
Am bob punt sy’n cael ei gwario ar docynnau’r loteri, mae 28c yn mynd yn syth i achosion da ac yn cael eu rhannu rhwng y categorïau canlynol:
Ar hyn o bryd gweithredir y Loteri Genedlaethol gan Camelot o dan drwydded saith mlynedd a ddechreuodd ym mis Ionawr 2002.
Mae sefydliadau gwahanol yn gyfrifol am roi grantiau’r Loteri Genedlaethol i brosiectau ym mhob un o’r chwe chategori. Caiff y sefydliadau hyn eu hadnabod fel ‘dosbarthwyr’. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri’n dyfarnu grantiau ar gyfer prosiectau sy’n gysylltiedig â threftadaeth unrhyw le yn y DU.
Mae 4.66 ceiniog o bob punt yn mynd i brosiectau treftadaeth