Heddiw croesawodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) a Chronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol (CGDG) y cyhoeddiad y bydd Jenny Abramsky, sydd ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Sain a Cherddoriaeth y BBC, yn ymuno â’r Bwrdd fel y Cadeirydd newydd ym mis Hydref 2008. Bydd yn olynu'r Foneddiges Liz Forgan sy’n sefyll i lawr wedi saith mlynedd.
Bydd Ms Abramsky yn cadeirio Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, sydd â phymtheg o aelodau’n cynnwys ffigyrau o’r sector treftadaeth a benodwyd gan y Prif Weinidog i redeg y ddwy Gronfa. Eu rôl fydd llywio polisi a chyfeiriad y CDL a phenderfynu ar y ceisiadau grant mawr ar gyfer prosiectau treftadaeth. Mae’r Bwrdd hefyd yn gwneud yr holl benderfyniadau ar geisiadau i’r CGDG, cronfa’r genedl pan fetha popeth arall ar gyfer treftadaeth, sy’n dosbarthu £10miliwn bob blwyddyn.
Dywedodd Jenny Abramsky: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i ymgymryd â’r rôl newydd hon gan fy mod i’n gefnogwr brwd o’n treftadaeth. Mae’r CDL yn chwarae rôl unigryw wrth gynnal a gwarchod ein treftadaeth ryfeddol, gyfoethog ac amrywiol ar gyfer y genedl gyfan ac rwy’n edrych ymlaen yn aruthrol at yr her a’r cyfleoedd.”
Mae CDL newydd lansio ei drydydd Cynllun Strategol* - ‘Trysori ein Treftadaeth: Buddsoddi yn ein Dyfodol’ – sy’n cyflwyno prosesau ymgeisio symlach a fydd yn gweld bron i £1biliwn yn cael ei fuddsoddi yn nhreftadaeth amrywiol y DU yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Nodyn Bywgraffiadol: Ar hyn o bryd, mae Jenny Abramsky yn Gyfarwyddwr Sain a Cherddoriaeth y BBC, ac mae’n gyfrifol am holl rwydweithiau radio cenedlaethol y BBC, gwasanaethau radio digidol y BBC a cherddoriaeth ar draws teledu, radio ar-lein a digwyddiadau byw. Mae’n aelod o Fwrdd Gweithredol y BBC, sy’n gyfrifol am gyflwyno gwasanaethau’r BBC a gweithrediadau beunyddiol ar draws y sefydliad. Mae hi hefyd yn Gadeirydd Hampstead Theatre, yn Ymddiriedolwr y Central School of Ballet ac yn Aelod Anrhydeddus o’r Royal Academy of Music. Yn flaenorol, gwasanaethodd fel Llywodraethwr y Sefydliad Ffilm Brydeinig ac roedd ar y Cyngor Economaidd, Cymdeithasol ac Ymchwil.
Mae wedi treulio ei bywyd gwaith yn y BBC, ble’r oedd hi’n olygydd ar y rhaglen Today ar Radio 4; fe lansiodd BBC Radio Five Live, BBC News Online a BBC News 24 ynghyd â phum gorsaf radio digidol; yn ogystal fe gomisiynodd yr Electric Proms (gŵyl flynyddol o gerddoriaeth boblogaidd gyfoes a gynlluniwyd i gyd-fynd â thymor BBC Proms o gerddoriaeth glasurol). Fe’i gwobrwywyd â’r CBE yn 2001 am wasanaethau i Ddarlledu.
- Diwedd -
Nodiadau i’r Golygyddion
- Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) yn galluogi cymunedau i ddathlu a gwarchod ein treftadaeth amrywiol, ynghyd â dysgu mwy yn ei chylch. O’n hamgueddfeydd a’n hadeiladau hanesyddol pwysig i barciau lleol a mannau prydferth neu gofnodi a dathlu traddodiadau, arferion a hanes, mae grantiau CDL yn agor treftadaeth ein cenedl i bawb ei mwynhau. Mae CDL wedi cefnogi dros 26,000 o brosiectau, gan glustnodi £4biliwn ledled y DU. Gwefan: www.hlf.org.uk.
- Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol (CGDG) yw’r gronfa pan fetha popeth arall ar gyfer treftadaeth y genedl, gan gamu i’r adwy trwy ariannu caffaeliadau brys. Ar hyn o bryd, mae CGDG yn derbyn incwm blynyddol o £10miliwn gan y llywodraeth.
- *Cynllun Strategol 3 CDL – Ebrill 2008 i Ebrill 2013. Yn y Cynllun Strategol newydd, bydd CDL yn parhau i ariannu pob maes o fewn treftadaeth, yn cynnwys yr holl raglenni cyfredol. Mae CDL wedi bod yn awyddus i gefnogi’r hyn mae pobl yn ei gredu sy’n bwysig ynghylch eu treftadaeth erioed. Bydd yr amrediad eang o raglenni yn cynnwys:
- Dyfarniadau o bob maint, o grantiau o £3,000 i ddyfarniadau mawr o dros £5miliwn;
- Cefnogaeth barhaus ar gyfer yr holl brif grantiau agored a’r rhaglenni â themâu (Eich Treftadaeth, Grantiau Treftadaeth, Grantiau Atgyweirio ar gyfer Mannau Addoli, Menter Treftadaeth Treflun, Parciau i Bobl, Partneriaethau Tirlun a Gwreiddiau Ifanc).
Mae CDL hefyd yn cyflwyno cynlluniau newydd i gefnogi ymgeiswyr a’r rhai sy’n derbyn grantiau a byddant yn parhau’n ymatebol yn lleol ar lefel ranbarthol ac yn genedlaethol.