Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cyflwyno deunydd ymgeisio newydd ar gyfer ei holl raglenni. Mae'r adran hon yn darparu pob gwybodaeth y bydd ei hangen arnoch i ddewis y rhaglen grant gywir ar gyfer eich prosiect treftadaeth.
Ceisiadau Arlein
Bydd ffurflenni holi cyn ymgeisio a ffurflenni cais ar gael arlein cyn bo hir ar gyfer y rhaglenni canlynol.
• Grantiau Treftadaeth (grantiau o £50,000 neu fwy)
• Eich Treftadaeth (grantiau o rhwng £3,000 a £50,000)
• Gwreiddiau Ifanc (grantiau o rhwng £3,000 a £25,000 ar gyfer pobl ifanc yn dathlu treftadaeth)
Os ydych
• yn gwybod pa ffurflen gais sydd ei hangen arnoch ac am ddechrau ar y broses ymgeisio, neu
• am olygu eich ffurlen gais gyfredol, neu
• wneud adolygiad o'ch ffurlen gais gyfredol.
Unwaith y byddwch wedi logio ymlaen byddwch yn gallu gweld rhestr o bob un o'ch ceisiadau i CDL. Bydd hyn yn cynnwys ymholiadau cyn ymgeisio, ceisiadau rownd cyntaf ac ail rownd a phrosiectau byw. I gyrchu'r rhain byddwch angen eich cyfeirnod unigryw. Mae pob deunydd ymgeisio ac arweiniad hefyd ar gael i'w llawrlwytho ar ffurf PDF.
Ffurflenni a deunydd ymgeisio ar ffurf PDF
Dim ond ar ffurf PDF y mae'r rhaglenni canlynol a dargedwyd ar gael. Rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar greu ceisiadau arlein ar gyfer y rhaglenni hyn. Am fwy o wybodaeth am y rhaglenni hyn detholwch y rhaglen o'r dudalen isod.