Gan ddarparu rantiau o rhwng £3,000 a £25,000, mae'r Rhaglen Gwreiddiau Ifanc yn anelu at gael pobl ifanc rhwng 13-25 mlwydd oed i fynd ati i ddarganfod eu treftadaeth, datblygu sgiliau, adeiladu hyder a hyrwyddo'u cysylltiadau â'r gymuned. Mae prosiectau Gwreiddiau Ifanc yn deillio'n uniongyrchol o ddiddordebau a syniadau pobl ifanc, gan harneisio eu creadigedd a'u hegni a'u helpu i weithio gydag eraill yn eu cymuned leol.
Ym mis Ebrill 2008 cyflwynon ni materion ymgeisio ac arweiniad newydd ar gyfer y rhaglen hon. Yn ystod y flwyddyn trawsnewidiol hon byddwn ni'n dechrau asesu ceisiadau o dan y rhaglen newydd hon ar 1 Medi 2008 a gwneir penderfyniadau cyntaf o fewn 10 wythnos o dderbyn eich cais.
I dderbyn grant Gwreiddiau Ifanc rhaid i'ch prosiect fod yn ymwneud â threftadaeth amrywiol y DU a:
- darparu cyfleoedd newydd i ystod ehagach o bobl ifanc rhwng 13 a 15 oed ddysgu am eu treftadaeth hwy a threftadaeth pobl eraill;
- caniatáu pobl ifanc i arwain a chymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol ac ymrwymedig
datblygu partneriaethau rhwng mudiadau ieuenctid a sefydliadau treftadaeth: a
- chreu cyfleoedd i ddathlu llwyddiannau pobl ifanc yn y prosiect a rhannu'r hyn a ddysgwyd gyda'r gymuned ehangach.
Rhaid i'ch prosiect hefyd greu:
- cyfleoedd i bobl ifanc wirfoddoli mewn treftadaeth; neu
- gyfleoedd newydd i bobl ifanc ddatblygu sgiliau mewn adnabod, recordio, dehongli neu ofalu am dreftadaeth.
Dilynwch y camau isod i ymgeisio am grant:
CAM 1 - Cyn i chi ymgeisio
Cyn i chi ymgeisio am grant, darllenwch yr wybodaeth dilynol:
CAM 2 - Cyngor cyn ymgeisio
Cyflwyno ffurflen cyn ymgeisio
- Os ydych chi'n credu bod eich prosiect yn cyrraedd ein meini prawf am grant hwn, bydd yn bosib i chi llenwi a chyflwyno ein ffurflen holi cyn ymgeisio arlein cyn bo hir i dderbyn cymorth pellach am ymgeisio am grant.
CAM 3 - Cyflwyno cais
- Bydd yn bosib i chi gyrchu'r ffurflen gais arlein yma cyn bo hir.
Fodd bynnag yn y cyfamser gallwch lawrlwytho fersiynau PDF o'r ffurflenni cais ac arweiniad o'r blwch ar y dde.