Heritage Lottery Fund homepage
21/11/2008 Hafan>Sut i ymgeisio>Ein rhaglenni grantiau>Eich Treftadaeth
Sut i ymgeisio
Ein rhaglenni grantiau
Ffurflen cyn gwneud cais
Arian i Bawb
Eich Treftadaeth
Grantiau Treftadaeth
Grantiau Atgyweirio ar gyfer Mannau Addoli
Menter Treftadaeth Treflun
Parciau i Bobl
Partneriaethau Tirlun
Gwreiddiau Ifanc
Beth syn digwydd pan fyddwn ni rhoi grant
Pwy ydym ni?  Yn eich ardal chi  Canolfan Cyfryngau  Cyhoeddiau a gwybodaeth 


Eich Treftadaeth (£3,000 i £50,000)

Mae Eich Treftadaeth yn darparu grantiau o rhwng £3,000 a £50,000 i gefnogi prosiectau sy'n perthyn i dreftadaeth leol, ranbarthol neu genedlaethol y DU. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n helpu pobl i ddysgu am dreftadaeth, ei gwarchod a'i dathlu mewn ffordd bleserus.

Mae gennym dri amcan a'r rheiny'n ymwneud â dysgu, cadwraeth a chyfranogiad.

I dderbyn grant rhaid i'ch prosiect:

  • helpu pobl i ddysgu am eu treftadaeth hwy a threftadaeth pobl eraill.

Rhaid i'ch prosiect hefyd wneud un neu ddau o'r canlynol.

  • Gwarchod treftadaeth amrywiol y DU er mwyn i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol eu profi a'u mwynhau.
  • Helpu mwy o bobl, ac ystod ehangach o bobl, i gymryd rhan weithgar a gwneud penderfyniadau ynghylch treftadaeth.

Mae treftadaeth yn cynnwys llawer o agweddau gwerthfawr gwahanol o'r gorffennol yr ydym am eu trosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol. Gallai prosiectau treftadaeth gynnwys:

  • atgofion a phrofiadau pobl
  • hanes pobl, cymunedau, lleoedd a digwyddiadau
  • traddodiadau diwylliannol
  • adeiladau a threfluniau hanesyddol
  • safleoedd archeolegol
  • casgliad o eitemau, archifau a deunyddiau eraill
  • tirluniau naturiol a gwneuthuredig
  • cynefinoedd a rhywogaethau
  • safleoedd a chasgliadau cysylltiedig â'n hanes diwydiannol a morwrol, a hanes trafnidiaeth.

Dilynwch y camau isod i ymgeisio am grant:

CAM 1 - Cyn i chi ymgeisio
Cyn i chi ymgeisio am grant, darllenwch yr wybodaeth dilynol:

CAM 2 - Cyngor cyn ymgeisio

      Cyflwyno ffurflen ymgeisio arlein  
    • Os ydych chi'n credu bod eich prosiect yn cyrraedd ein meini prawf am grant hwn, bydd yn bosib i chi llenwi a chyflwyno ein ffurflen holi cyn ymgeisio arlein cyn bo hir i dderbyn cymorth pellach am ymgeisio am grant.

      Cysylltu â'ch cyd-lynydd lleol
    • Cysylltwch â Thîm Datblygu Cymru am gymorth a chyngor pellach.

CAM 3 - Cyflwyno cais

    • Bydd yn bosib i chi gyrchu'r ffurflen gais arlein yma cyn bo hir.

      Fodd bynnag yn y cyfamser gallwch lawrlwytho fersiynau PDF o'r ffurflenni cais ac arweiniad o'r blwch ar y dde.



      Penwythnos Treftadaeth Agored, Dinbych

      ADNODDAU EICH TREFTADAETH
    • Disgrifiad o'r grant
    • Ai dyma'r un iawn i chi?
    • Cwestiynau Codi'n Aml
    • Astudiaethau Achos

    • YMGEISIO ARLEIN
    • Ffurflen cyn ymgeisio
    • Ffurlfen gais
    • DEUNYDD YMGEISIO Y GELLIR PRINTIO
    • Cyflwyniad a Nodiadau (ffeil pdf 439 KB)
    • Ffurflen cyn ymgeisio (ffeil pdf 123 KB)
    • Ffurflen Gais (ffeil pdf 509 KB)