|
Annwyl Gyd-weithiwr,
2010 ydy Blwyddyn Ryngwladol Bioamrwyiaeth, ac mae pobl o gwmpas y byd yn cael eu hannog i ddiogelu ein treftadaeth naturiol byd-eang a lleihau cyfradd colled bioamrywiaeth.
Rydym ni, Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL), yn cefnogi’r fenter 2010 ac rydym eisiau sefydliadau i wneud ceisiadau am arian gennym ar gyfer prosiectau sydd yn gwarchod treftadaeth naturiol gwerthfawr y DU.
Os ydych eisiau gwarchod rhywogaethau neu gynefinoedd o flaenoriaeth, hyfforddi gwirfoddolwyr mewn technegau adnabyddiaeth biolegol, neu helpu ystod eang o bobl i ddysgu am y byd naturiol, rydym eisiau clywed gennych.
Mae CDL wedi buddsoddi mwy na £860miliwn mewn prosiectau sydd yn diogelu cefn gwlad, bywyd gwyllt a pharciau gwerthfawr y DU, gan helpu i warchod rhai’n o’n bywyd gwyllt sydd o dan fygythiad mwyaf. Ond mae dal llawer i’w wneud, yn enwedig yn 2010, yn sgil y sialensau mae’r rhestr newydd o gynefinoedd a rhywogaethau o flaenoriaeth wedi eu gosod.
Rydym yn barod yn ariannu ystod eang o brosiectau: o arbed y morgrugun coch bigog rhag difodiant buan ar dir mawr Prydain, i adfer cynefinoedd corsdiroedd coll yn Swydd Gaergrawnt. Gallwch ddarganfod mwy am ein prosiectau ar ein gwefan, ac rydym newydd gyhoeddi ein dogfen arweiniol Meddwl am fioamrywiaeth, sydd yn nodi yr hyn y gallwn ei ariannu ac yn rhestru’r ffynonellau cyngor i roi syniadau i chi a’ch helpu i gynllunio eich prosiect.
Am ragor o wybodaeth am CDL, rhowch alwad ar 029 2034 3413 neu gyrrwch e-bost i cymru@hlf.org.uk
|





|