Heritage Lottery Fund homepage
03/12/2008 Hafan>Pwy ydym ni?
Pwy ydym ni?
Ein cefndir
Beth rydym yn ei wneud?
Sut rydym yn gweithio
O ble y daw ein harian?
Penderfynwyr a rheolwyr
Ymddiriedolwyr
Uwch reolwyr
Pwyllgor Cymru
Sut i ymgeisio  Yn eich ardal chi  Canolfan Cyfryngau  Cyhoeddiau a gwybodaeth 


Pwy ydym ni?

Sefydlwyd Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) gan y Senedd ym 1994 i roi grantiau i ystod eang o brosiectau a oedd yn cynnwys treftadaeth leol, ranbarthol a chenedlaethol y Deyrnas Unedig.  Rydym yn dosbarthu cyfran o’r arian a godir gan y Loteri Genedlaethol ar gyfer Achosion Da.

 

Eleni, byddwn yn dyrannu tua £255 miliwn i brosiectau yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.  Ers 1994, mae CDL wedi dyfarnu £4 biliwn i fwy na 26,000 o brosiectau ledled y DU.

 

Yn swyddogol cawn ein hadnabod fel ‘corff cyhoeddus anadrannol’.  Er nad ydym yn adran o’r llywodraeth, golyga hyn fod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn rhoi cyfarwyddiadau ariannol i ni, ac rydym yn adrodd i’r Senedd drwy’r adran.  Mae ein penderfyniadau ynglŷn â cheisiadau a pholisïau unigol yn gwbl annibynnol.

 

Gweinyddir CDL gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol sy’n dyrannu tua £10 miliwn y flwyddyn i’n treftadaeth genedlaethol, sy’n ymddwyn fel cronfa ‘yn niffyg dim arall’.

Young Roots project in the North East
Gwreiddiau Ifanc, Newcastle


CANLLAWIAU'R LLYWODRAETH

·           Deddf Loteri 1993

·           Deddf Treftadaeth 1997

·           Deddf Loteri 1998