Heritage Lottery Fund homepage
07/01/2009 Hafan>Pwy ydym ni?>Ein cefndir>Sut rydym yn gweithio
Pwy ydym ni?
Ein cefndir
Beth rydym yn ei wneud?
Sut rydym yn gweithio
O ble y daw ein harian?
Penderfynwyr a rheolwyr
Ymddiriedolwyr
Uwch reolwyr
Pwyllgor Cymru
Sut i ymgeisio  Yn eich ardal chi  Canolfan Cyfryngau  Cyhoeddiau a gwybodaeth 


Sut rydym yn gweithio


Ar hyn o bryd rydym yn cyflogi tua 240 o staff, wedi eu lleoli yn ein swyddfa corfforaethol yn Llundain ac ein swyddfeydd rhanbarthol a gwlad ar draws y DU.

 

Mae ein staff yn gweithio mewn adrannau gwahanol a thîmau gyda chyfrifioldebau arbennig. Mae’r rhain yn cynnwys cyfathrebu, cyllid, technoleg gwybodaeth, gwasanaethau cyfreithiol, gweithredoedd, personél, polisi a chefnogaeth ar gyfer ein bwrdd o ymddiriedolwyr a pwyllgorau.

 

Mae ein adran gweithredoedd wedi ei drefnu i ddeuddeg tîm. Mae pob un delio gyda’r ceisiadau rydym yn eu derbyn a’r grantiau yr ydym yn ei roi yn Gogledd Iwerddon, Yr Alban, Cymru ac un o’r naw rhanbarth o Loegr. Mae yna dîm grantiau mawr ychwanegol sydd yn asesu ceisiadau grant o £5 miliwn neu fwy yn Lloegr.

 

Gwneud cwyn
Mae pob Dosbarthwyr Loteri yn dilyn yr un drefn wrth ddelio â chwynion. Fe eglurir y broses newydd yma yn ein taflen ‘Gwneud Cwyn’. I lawrlwytho y daflen yma cliciwch ar y cysylltiadau canlynol:


Saesneg | Cymraeg

 

Rhybudd: Gwobrau Ffug
Ydych chi wedi cael eich hysbysu eich bod wedi ennill gwobr gan Gronfa Treftadaeth y Loteri?

 

Nid yw CDL yn gweithredu Loteri nac yn dosbarthu gwobrau. Dim ond fel ymateb i geisiadau y dyfarnwm grantiau. Felly, os derbyniwch e-bost yn eich hysbysu eich bod wedi ennill gwobr, nid yw wedi dod ganddom ni. Nid yw unrhyw loteri sydd yn gofyn am daliad er mwyn gallu hawlio gwobr yn perthyn i unai CDL neu Loteri Genedlaethol y DU.

 

Mae rhai loterïau sydd yn gofyn i chi dalu er mwyn hawlio eich gwobr. Nid ydym yn gwybod pa rai o’r  loterïau yma sydd yn ddilys. Fe ystyrir rhai loterïau talu-i-hawlio yn dywyllodrus gan yr Heddlu Metropolitan neu Bwrdd Gemau Prydain Fawr. Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch a’r Heddlu Metropolitan drwy e-bost neu ymweld â'u gwefan.

 

Ein cyngor ni yw y dylech fod yn wyliadwrus, a pheidio rhoi eich arian neu eich manylion i unrhyw gwmni nad ydych yn ei adnabod a gwirio statws cyfreithiol y loteri yn gyntaf.

 

Ein hymrwymiad i chi

Yr hyn sydd yn cynnal ein holl weithgraeddau yw awydd I ddarparu gwasanaeth effeithiol, economaidd ac effeithlon sydd ar gael yn rhwydd i ymgeiswyr iawn a photensial, ac i bawb sydd eisiau darganfod mwy am yr hyn ydym yn ei wneud. I ddarganfod mwy, darllenwch ein siarter gwasanaeth cwsmeriaid (Saesneg yn unig).

 

Rydym wastad yn chwilio am ffyrdd i wella ein gwasanaeth. Cysylltwch â ni a gadewch i ni wybod yr hyn ydych yn ei feddwl am Gronfa Dreftadaeth y Loteri – beth yr ydym yn ei wneud yn dda, a lle allwn ni wella.

 

Rhyddid Gwybodaeth

Rydym yn ymroddedig i fod yn agored yn ein ymwneud â ymgeiswyr a grantïon, y cyhoedd, y wasg, y llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill. Fel cymorth i dryloywedd ac atebolrwydd, mae ein cynllun cyhoeddiadau (Saesneg yn unig) yn adnabod categorïau eang o wybodaeth sydd gennym a all fod o ddiddordeb i’r cyhoedd.

 

Poilsi Mynediad

Yr ydym wedi ymrywmo i ddatblygu y gynulleidfa fwyaf posib ar gyfer treftadaeth drwy hyrwyddo mynediad gwell i dreftadaeth i bawb, a drwy ddefnyddio ein cyllid i annog gwell ymrwymiad cymuned gyda eu treftadaeth. Mae ein polisi Mynediad (Saesneg yn unig) yn sôn am nodau cyfan treftadaeth i bawb a’r amcanion unigol ar gyfer cyflawni hyn.

 

Cydraddoldeb & Amrywiaeth

Yr ydym wedi ymrwymo yn llwyr i ddarpariaeth o fynediad a chyfleoedd cyfartal, drwy'r arian loteri yr ydym yn ei ddosbarthu, ac fel cyflogwr. Fel defnyddwyr o’r symbol anabledd, rydym yn gwarantu i gyfweld pob ymgeisydd anabl sydd yn cyrraedd gofynion lleiafswm ar gyfer y swyddi hynny.

 

Rydym wedi ymrwymo i greu a chynnal diwylliant sydd yn denu gwerthoedd ac yn cefnogi talentau a sgiliau amrywiol, gan ddeall y caiff pawb eu trin gyda’r urddas maent yn haeddu, a gyda parch tuag at eu cyfraniad unigryw i waith y Gronfa. Ym mhob cynfod o’r gylchred gyflogaeth, bydd ymgeiswyr a staff yn cael eu barnu yn ôl eu gallu a dim byd arall.

 

Cynllun Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon

Mae Adran 75 o Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus, tra yn gweithredu mewn perthynas i Ogledd Iwerddon, i hybu cydraddoldeb cyfleoedd a perthnasau da. Mae Cronfa Dreftdataeth y Loteri wedi ei ymrwymo i sicrhau fod cydraddoldeb yn ran hanfodol o bobeth yr ydym yn eu wneud. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb ar gyfer Gogledd Iwerddon (ffeil pdf 104 KB, Saesneg yn unig) yn nodi sut y bwriadwn wneud hyn.

 

Increasing access to our heritage

Cynyddu mynediad i dreftadaeth



ADNODDAU