Cronfa Dreftadaeth y Loteri yw prif ariannwr ein treftadaeth amrywiol yma yn y DU, a’r unig sefydliad treftadaeth sy’n gweithredu ar draws Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban, ac sy’n ariannu holl ledaeniad treftadaeth – gan gynnwys adeiladau, amgueddfeydd, treftadaeth naturiol a threftadaeth traddodiadau diwylliannol ac iaith.
Rydym yn helpu grwpiau a sefydliadau o bob maint â phrosiectau sy’n:
· annog mwy o bobl i ymwneud â’u treftadaeth, a gwneud penderfyniadau
· gwarchod a gwella treftadaeth amrywiol y DU
· sicrhau y gall pawb ddysgu am, cael mynediad i, a mwynhau eu treftadaeth.
Ein nod yw cefnogi gwaith a gynllunnir i ofalu am y dreftadaeth, ac i gynorthwyo pobl i’w phrofi a’i mwynhau. Er enghraifft:
· Atgyweirio adeiladau a gwaith cadwraeth
· Prynu eitemau, tir neu adeiladau sy’n bwysig i’n treftadaeth
· Ei gwneud yn haws i bobl gael mynediad i’w treftadaeth
· Cynyddu’r dysgu am gofnodi a chadw ein treftadaeth
· Ehangu cyfranogiad ymysg pobl o bob oedran ac o bob cefndir – yn enwedig pobl o gymunedau nad ydynt wedi bod yn gysylltiedig â threftadaeth o’r blaen.
Ers 1994, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi dyfarnu £4 biliwn i fwy na 26,000 o brosiectau ledled y DU. Y llynedd, roedd pedwar o bob pump o’n grantiau ar gyfer symiau’n llai na £50,000, llawer yn mynd i grwpiau cymuned bach. Ein grant mwyaf erioed oedd £26 miliwn i adnewyddu camlas hanesyddol Kennett ac Avon sy’n rhedeg rhwng Reading a Bryste.
Am ragor o wybodaeth am geisio am grant CDL, ewch i Sut i Ymgeisio.