Mae pobl ifanc ar draws y DU wedi gosod yr her heddiw ar gyfer eu cenhedlaeth i archwilio ac i ddathlu'r effaith mae eu gwreiddiau diwylliannol wedi'u cael ar eu gwerthoedd a'u synnwyr hunaniaeth a hynny trwy weithio gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri a Lerpwl, Prifddinas Diwylliant Ewrop 2008.
Mae ‘Portread o Genedl’ yn rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar-lein blwyddyn a fydd yn para blwyddyn sy'n nodi y tro cyntaf y mae pobl ifanc o 18 o ddinasoedd* ar draws y DU, o Inverness i Brighton, wedi cael gwahoddiad i drafod a rhannu o ble maen nhw'n dod, pwy ydynt hwy, a beth mae' hynny’n ei olygu ar gyfer eu dyfodol.
O dafodieithoedd lleol i ffasiwn, y mannau lle maen nhw'n treulio'u hamser neu'r gerddoriaeth maen nhw'n gwrando arni, mae bywydau pobl ifanc yn cael eu ffurfio gan ddiwylliannau, lleoedd a phobl yn eu trefi genedigol gymaint â’r hyn sy’n digwydd yng ngweddill y wlad. Bydd Portread o Genedl yn gofyn i'r rhai yn eu harddegau a phobl ifanc sy'n byw yn ein dinasoedd beth sy'n gwneud eu tref yn wahanol ac yn arbennig. Beth mae pobl ifanc yn Lerpwl yn ei werthfawrogi am eu tref o’i gymharu â'r rheini ym Mryste neu Belfast? A beth sydd ganddynt hwy oll yn gyffredin?
Yn ystod y flwyddyn bydd y bobl ifanc yn llwyfannu digwyddiadau o ddathliad i ddangos beth sy’n gwneud eu dinas yn unigryw trwy ystod o brosiectau celf, perfformio a threftadaeth. Byddant hefyd yn esgor ar drafodaethau ar-lein yn www.portraitofanation.net , yn postio blogiau, lluniau a ffilmiau, ac yn gwahodd Aelodau Seneddol, enwogion ac aelodau’r cyhoedd i chwarae eu rhan trwy ychwanegu hoff fannau diwylliannol eu trefi.
Daw'r gweithgaredd i ben ym mis Rhagfyr gyda digwyddiad finale yn Neuadd St George, Lerpwl, lle bydd cynrychiolwyr ifanc o bob dinas yn dod ynghyd i wneud perfformiadau ac arddangosfeydd i ddathlu'r hyn sy'n gwneud eu dinasoedd eu hunain yn arbennig. Yr arddangosfa hon fodd un o ddigwyddiadau terfynol dathliadau Prifddinas Diwylliant Ewrop 2008 Lerpwl.
Dywedodd Dil Lewington, 17, o Grŵp Cynghori Ieuenctid, Prifddinas Diwylliant Ewrop 2008, Lerpwl; 'Mae Portread o Genedl yn ddathliad o'r hyn mae'n ei olygu i fod yn berson ifanc yn y Deyrnas Unedig yn rhannu eu diwylliant a’u hunaniaeth gydag eraill yn genedlaethol.
‘Rwyf wrth fy modd gyda fy Ninas, ac mae ei diwylliant, ei hanes a'i chymeriad mor fyw â'r bobl sy'n rhan ohoni. Mae diwylliant yn newid ac yn tyfu yn gyson ac mae pobl ifanc Lerpwl yn dathlu’r cyfle i rannu’r cyfoeth hwn gyda phobl ifanc eraill ar draws y DU.’
Dywedodd Liz Forgan, Cadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri; ‘O’r Prif Weinidog i lawr mae cwestiynau ynghylch ein diwylliant a hunaniaeth yn cael eu trafod yn eang. Rydym yn pryderu ynghylch pa werthoedd, pa synnwyr hunaniaeth y byddwn yn eu trosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol i'w clymu ynghyd yn un genedl falch a chydlynol. Ond pa mor aml yr ydym ni’n gofyn i'r bobl ifanc eu hunain beth yw eu barnau ar y materion hyn?
‘Bydd Portread o Genedl yn rhoi cipolwg o’r hyn sy’n gwneud treftadaeth ein dinasoedd yn arbennig, a bydd wedi’i greu yn gyfan gwbl gan y genhedlaeth ifanc honno. Fe allai beri syndod neu frawychu eu rhieni. Fe allai roi anogaeth wych i ni i'r dyfodol. Yn sicr bydd yn dweud rhywbeth newydd a phwysig wrthym am ein gwlad.'
Ychwanegodd Bryan Gray, Cadeirydd Cwmni Diwylliant Lerpwl; 'Lerpwl oedd enwebiad y DU ar gyfer Prifddinas Diwylliant Ewrop felly mae’n arbennig o addas y bydd Portread o Genedl yn rhoi cyfle i bobl ifanc o bob cwr o’r wlad chwarae eu rhan yn nathliadau 2008.
‘Fel un o’r cerrig milltir olaf ym mlwyddyn Prifddinas Diwylliant Ewrop, mae digwyddiad finale Portread o Genedl ym mis Rhagfyr yn argoeli i fod yn ychwanegiad hynod gyffrous i’n rhaglen.’
Ychwanegodd Andy Burnham, Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon:
“Mae gan ein holl ddinasoedd eu personoliaethau unigryw eu hunain sy’n cael eu hadlewyrchu yn y bobl sy’n byw a gweithio ynddynt. Gan fy mod yn dod o deulu sydd wedi cefnogi Everton ers cenedlaethau, rwy’n danbaid o falch o fy ngwreiddiau yn Lerpwl. Mae gennym oll awch i wybod o le’r ydym yn dod a’r hyn sydd wedi’n gwneud ni yn bwy ydym ni. Felly bydd hi’n beth braf i bobl ifanc ar draws y DU archwilio’r gwerthoedd, y traddodiadau a’r diwylliannau lleol sydd o bwys iddynt.”
Mae digwyddiadau ymlaen llaw ym Mryste ac Inverness wedi profi'n hynod lwyddiannus, gyda Bryste yn lansio hanes darluniadol o'r ddinas ar gyfer ‘Great Reading Adventure’ eleni, (sy’n targedu ysgolion yn benodol), ac fe wnaeth Inverness chwarae darn ymlaen llaw o gerddoriaeth a gomisiynwyd o’r newydd sy’n defnyddio’r iaith Aeleg er mwyn archwilio gwreiddiau diwylliannol yr Ucheldiroedd o fewn cyd-destun modern.
Mae delweddau o ieuenctid Lerpwl yn ‘dadorchuddio’ Portread o Genedl ar gael o wneud cais amdanynt.
Er mwyn gwylio ffilm fer ynghylch yr hyn sydd gan ieuenctid Lerpwl i'w ddweud am ‘Portread o Genedl;’ ewch i YouTube:
http://uk.youtube.com/watch?v=ZL2uBzoPoMo
Nodiadau i Olygyddion:
Ymhlith y dinasoedd sy’n cynnal digwyddiadau Portread o Genedl lleol yw:-
Belffast
Birmingham
Bradford
Brighton & Hove
Bryste
Caergaint
Caerdydd
Derby
Caerlŷr
Leeds
Lerpwl
Newham (Llundain)
Manceinion
Newcastle Gateshead
Norwich
Nottingham
Rhydychen
Inverness (Ucheldiroedd a’r Ynysoedd)
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn galluogi i gymunedau ddathlu, gofalu a dysgu mwy ynghylch ein treftadaeth amrywiol. O’n hamgueddfeydd a’n hadeiladau hanesyddol gwych i barciau lleol a chefn gwlad neu gofnodi a dathlu traddodiadau, arferion a hanes, mae grantiau Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn agor treftadaeth ein cenedl i bawb ei mwynhau. Rydym wedi dyfarnu grantiau sy’n gwneud cyfanswm o fwy na £4 biliwn i fwy na 26,000 o brosiectau.
Sefydlwyd Cwmni Diwylliant Lerpwl gan gyngor Dinas Lerpwl yn 2000, er mwyn arwain cais y ddinas i fod yn Brifddinas Diwylliant Ewrop 2008. Ym mis Mehefin 2003, ar ôl cystadleuaeth genedlaethol dwy flynedd o hyd rhwng 12 o ddinasoedd, dewiswyd Lerpwl yn gynrychiolydd y DU ar gyfer 2008. Mae’r rhaglen ar gyfer 2008 yn cynnwys mwy na 350 o ddigwyddiadau a gwyliau – y mae nifer ohonynt am ddim – a gyflwynir mewn cydweithrediad gyda sefydliadau diwylliannol mawr, artistiaid, perfformwyr a lleoliadau ar draws Lerpwl a’r tu hwnt.