Mae Cymdeithas Adeiladu Nationwide wedi partneru gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) i lawnsio Gwobrau Cymuned a Threftadaeth Nationwide 2008, gan wahodd y cyhoedd i enwebu pobl neu grŵpiau sydd yn haeddu cydnabyddiaeth am waith cymunedol neu wirfoddol sydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.
Gellir enwebu’r gwirfoddolwyr gorau a mwyaf ysbrydoledig yn y DU o heddiw ymlaen am unai:
- Pencampwr Cymuned – cydnabyddiaeth ar gyfer y rheiny sydd wedi cael effaith yn eu cymuned lleol.
- Arwr Treftadaeth – cydnabyddiaeth ar gyfer y rheiny sydd wedi gwirfoddoli i gymryd rhan wrth achub rhan o’u treftadaeth a’i rhannu ag eraill.
Adnabyddwyd y gwobrau yn y gorffennol fel Gwobrau Nationwide ar gyfer Ymdrechion Gwirfoddol a oedd a deg mlynedd o hanes llwyddiannus yn cydnabod dros 13,000 o bobl ar hyd a lled y wlad. Mae’r bartneriaeth newydd rhwng Nationwide a CDL yn galluogi mwy o arwyr sydd heb dderbyn clod i dderbyn cydnabyddiaeth am eu hymdrechion rhagorol fel gwirfoddolwyr.
Dywedodd y Prif Weinidog Gordon Brown: “Mae gwirfoddolwyr yn gwneud gwahaniaeth bob dydd i fywyd yn ein cymunedau ac maent yn hynod o bwysig i’n cenedl gyfan. Bydd y gwobrau yma yn dathlu cyfraniad yr arwyr bob dydd sydd yn gwneud cymaint i’n bywyd cendlaethol ac rwyf yn eu llongyfarch i gyd am yr hyn maent wedi eu wneud.”
Dechreuwch enwebu nawr:
Gellir cael ffurflenni enwebu ar-lein yn www.nationwide.co.uk o heddiw ymlaen. Bydd taflenni a ffurflenni enwebu ar gael o Dydd Llun 25 Chwefror o ganghennau Cymdeithas Adeiladu Nationwide, swyddfeydd CDL, llyfrgelloedd cyhoeddus a drwy bapurau newyddion lleol. Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau ydy Dydd Llun 28 Ebrill 2008.
Bydd cyfres o ddigwyddiadau rhanbarthol a gwladol ar gyfer enwebiadau rhestr fer yn cael eu cynnal ar hyd a lled y wlad mewn amrywiol leoliadau treftadaeth. Cynhelir y rownd derfynol yn Llundain yn ystod Tachwedd 2008.