Heritage Lottery Fund homepage
20/11/2008 Hafan>Sut i ymgeisio>Ein rhaglenni grantiau>Partneriaethau Tirlun>Ai dyma'r un iawn i chi?
Sut i ymgeisio
Ein rhaglenni grantiau
Ffurflen cyn gwneud cais
Arian i Bawb
Eich Treftadaeth
Grantiau Treftadaeth
Grantiau Atgyweirio ar gyfer Mannau Addoli
Menter Treftadaeth Treflun
Parciau i Bobl
Partneriaethau Tirlun
Gwreiddiau Ifanc
Beth syn digwydd pan fyddwn ni rhoi grant
Pwy ydym ni?  Yn eich ardal chi  Canolfan Cyfryngau  Cyhoeddiau a gwybodaeth 


Partneriaethau Tirlun
Ai dyma'r un iawn i chi?


1. A ydych chi’n chwilio am gyfraniad grant o rhwng £250,000 a £2 filiwn?

Gallwch wneud cais am grant o Gronfa Dreftadaeth y Loteri os oes arnoch angen cyfraniad gennym o rhwng £250,000 a £2 miliwn gan gynnwys ariannu datblygu.

 

2. A fydd eich prosiect cyrraedd ein pedwar meini prawf?

Rhaid i cynlluniau Partneriaethau Tirlun gynnwys prosiectau rhaglenni gwaith a gweithgareddau sydd yn cyrraedd pob un o’r meini prawf canlynol er mwyn sicrhau hir dymor o fanteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i ardaloedd gwledig.  Y rheiny yw:

·      cadw neu’n adfer nodweddion adeiledig naturiol sy’n creu cymeriad hanesyddol y tirlun;

·      cadw ac yn dathlu cysylltiadau diwylliannol a gweithgareddau ardal y tirlun;

·      annog mwy o bobl i gael mynediad at, ymwneud â gwneud penderfyniadau am dreftadaeth eu tirlun; a

·      gwella dealltwriaeth o grefft leol a sgiliau eraill drwy gyfle i gael hyfforddiant.

 

3. A yw eich cynllun yn ymwneud â nifer o wahanol sefydliadau?

Mae trefn partneriaethol yn sylfaenol i ddatblygu cynllun llwyddiannus.  Gall partneriaeth fod yn aelodau’r cymuned, neu nifer o fudiadau lleol, rhanbarthol neu genedlaethol gyda diddordeb yn yr ardal.  Disgwyliwn fod gan y bartneriaeth fwriad sy’n gyffredin i bawb i ddatblygu, rheoli a darparu’r cynllun er budd y tirlun a’r gymuned yn ei chyfanrwydd.

 

4. A oes gan eich prosiect cymeriad tirlun unigryw sy’n cael ei werthfawrogi?

Gallwn gefnogi cynlluniau sydd â’r nod o gadw ardaloedd o dir sydd â chymeriad tirlun lleol a gydnabyddir ac a werthfawrogwyd gan bobl leol. Bydd angen i chi nodi beth sy’n gwneud ardal y tirlun hwn yn rhan arbennig ac unigryw o ddiwylliant y DU. Pa nodweddion neu elfennau a gweithgareddau cysylltiedig sy’n ei wneud yn arbennig? A allant gael eu cadw i roi mwynhad a galwedigaeth i’r rhai sy’n byw, yn gweithio neu’n ymweld â’r ardal? 

 

5. A yw eich cynllun yn ymwneud â phrosiectau sy’n digwydd ar dir nad ydych chi a’ch ‘partneriaid’ yn berchen arno neu’n ei reoli’n uniongyrchol?

Cydnabyddwn efallai bod llawer o’r prosiectau yn eich cynllun yn digwydd ar dir neu’n cynnwys eiddo nad ydych chi a’ch ‘partneriaid’ yn berchen neu’n ei reoli yn uniongyrchol.  Bydd gennych chi cyfrifoldeb am dermau o unrhyw gytundeb grant mewn cysylltiad â’ch cynllun, yn cynnwys ail-dalu eich grant os yw’n anghenrheidiol.





ADNODDAU PARTNERIAETHAU TIRLUN
  • Disgrifiad o'r grant
  • Ai dyma'r un iawn i chi?
  • Cwestiynau Codi'n Aml
  • Astudiaeth Achos (Saesneg)

  • DEUNYDD YMGEISIO

  • Nodiad Cymorth Rownd 1: Saesneg (pdf, 113KB)
  • Nodiad Cymorth Rownd 2 Saesneg (pdf 95KB)
  • Ffurflen cyn ymgeisio Saesneg (pdf 61kb)
  • Ffurflen Gais Saesneg (pdf 101kb)
  • Nodiadau Arweiniol Saesneg (pdf 176kb)