Heritage Lottery Fund homepage
07/01/2009 Hafan>Sut i ymgeisio>Ein rhaglenni grantiau>Parciau i Bobl>Parciau i Bobl
Sut i ymgeisio
Ein rhaglenni grantiau
Ffurflen cyn gwneud cais
Arian i Bawb
Eich Treftadaeth
Grantiau Treftadaeth
Grantiau Atgyweirio ar gyfer Mannau Addoli
Menter Treftadaeth Treflun
Parciau i Bobl
Partneriaethau Tirlun
Gwreiddiau Ifanc
Beth syn digwydd pan fyddwn ni rhoi grant
Pwy ydym ni?  Yn eich ardal chi  Canolfan Cyfryngau  Cyhoeddiau a gwybodaeth 


Parciau i Bobl (£250,000 i £5 miliwn)

Mae’r cyd-fenter tair blynedd hon rhwng Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) a’r Gronfa Loteri Fawr (CLF) yn helpu i adfer ac adfywio parciau a gerddi cyhoeddus, gan gynnwys sgwariau, llwybrau a phromenadau yn Lloegr.

Nodwch:  Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau cam un yw 30 Medi 2008. Ni dderbynnir ceisiadau cam un ar ôl dyddiad cau Medi 2008 dan y fersiwn hon o'r rhaglen. Mae CDL wedi ymrwymo i barhau i ariannu Parciau i Bobl a bydd yn gwneud rhai newidiadau i'r rhaglen er mwyn symleiddio'r broses ymgeisio i gydfynd â rhaglenni eraill. Cyhoeddir y newidiadau hyn a'r amserlenni gweithredu yn hwyrach yn 2008. Mae'r cynllun grantiau cynllunio prosiectau Parciau i Bobl yn awr wedi cau. Ni dderbynnir ceisiadau pellach.

Bydd arian ar gyfer parciau yn Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn cynnig yr un cyfleoedd ac yn defnyddio’r un broses asesu â Lloegr, ond byddant yn cael eu rheoli’n gyfan gwbl gan CDL.

Dilynwch y camau isod i ymgeisio am grant: 

CAM 1 - Cyn i chi ymgeisio
Cyn i chi ymgeisio am grant, darllenwch yr wybodaeth dilynol:

      A yw’n iawn ar eich cyfer chi?
    • Ar gyfer y rhaglen grant hon, mae'r term ‘parc cyhoeddus’ yn golygu man trefol neu wledig gwyrdd wedi'i gynllunio, a'r prif bwrpas yw chwarae a mwynhad anffurfiol.  Mae’n cynnwys parciau, gerddi, sgwariau, rhodfeydd a phromenadau.

      Er ein bod yn disgwyl i’r rhan fwyaf o geisiadau a gawn ar gyfer y rhaglen hon gael eu harwain gan awdurdodau lleol, rydym yn croesawu ceisiadau gan sefydliadau dielw eraill sy’n berchen ar barciau cyhoeddus.

      Gallwch wneud cais trwy'r rhaglen hon os:
    • yw eich prosiect yn ymwneud â pharc cyhoeddus;
    • ydych yn sefydliad di elw; ac
    • os oes angen grant o rhwng £250,000 a £5 miliwn arnoch (gan gynnwys grant datblygu).

      Hefyd, bydd rhaid i chi ddangos i ni bod:
    • eich cymuned yn gwerthfawrogi’r parc fel rhan o’u treftadaeth;
    • y parciau’n bodloni anghenion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol; a bod
    • y parc yn ymglymu pobl leol i fod yn weithredol.

      Oes rhaid i mi gyfrannu unrhyw beth i'm prosiect?
      Bydd angen i chi godi o leiaf 25% o gostau eich prosiect o ffynonellau eraill, naill ai fel arian parod neu gyfraniadau di-arian (dyma eich arian partneriaeth). Mae’n rhaid i o leiaf 5% o’r arian partneriaeth hwn fod yn arian parod fydd yn dod o’ch ffynhonellau eich hun.

      Nodiadau Arweiniad Ychwanegol Bydd y nodiadau arweiniad hyn yn eich helpu os ydych chi'n meddwl am ymgeisio am grant Parciau i Bobl
    • Taflen Parciau i Bobl - Saesneg (pdf file 868KB)
    • Crynodeb o'r rhaglen - Saesneg (pdf file 112KB)
    • Gwneud cychwyn - Saesneg (Word file56 KB)

CAM 2 - Cyngor cyn gwneud cais

      Cyflwyno ffurflen cyn gwneud cais
      Os ydych chi'n credu bod eich prosiect yn cyrraedd ein meini prawf am grant hwn, llenwch a chyflwyno ein ffurflen holi cyn ymgeisio i dderbyn cymorth pellach am ymgeisio am grant.

      Cysylltu â'ch cyd-lynydd lleol
    • Cysylltwch â Thîm Datblygu Cymru am gymorth a chyngor pellach.

CAM 3 - Cyflwyno cais

 

  • Pryd mae'r dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau cam un a grantiau prosiectau cynllunio?
    Byddwn yn gwneud penderfyniadau gan ddefnyddio proses ymgeisio dau gam.  Mae cam un yn gystadleuol gyda dau ddyddiad cau bob blwyddyn - 31 Mawrth a 30 Medi.  Y dyddiad cau terfynol ar gyfer ceisiadau cam un yw 30 Medi 2008.  Ni dderbynnir ceisiadau cam un ar ôl y dyddiad cau terfynol ym mis Medi 2008. 
    Mae'r cynllun grant cynllunio prosiect Parciau i Bobl yn awr wedi cau.  Ni dderbynnir ceisiadau pellach.
  • Beth fydd yn digwydd pan fydd eich rhaglen yn cau?
    Mae CDL wedi ymrwymo i barhau i ariannu Parciau i Bobl a bydd yn gwneud rhai newidiadau i'r rhaglen er mwyn symleiddio'r broses ymgeisio i gydfynd â rhaglenni eraill.  Bydd cael buddsoddi pellach yn y rhaglen oddi wrth y Gronfa Loteri Fawr yn dibynnu ar yr ymgynghori a'r blaenoriaethau ariannu y  cytunir arnynt yn 2009.

Lawrlwythwch y pecyn cais
Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig yr holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen i wneud cais am grant Parciau i Bobl yn:

  • Lloegr; ac yn:
  • Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon
  •  



    Parc Fictoria, Caerdydd


    ADNODDAU PARCIAU I BOBL

  • Cliciwch yma i lawrlwytho gwybodaeth ar raglen Parciau i Bobl