Heritage Lottery Fund homepage
03/12/2008 Hafan>Sut i ymgeisio>Ein rhaglenni grantiau>Gwreiddiau Ifanc
Sut i ymgeisio
Ein rhaglenni grantiau
Ffurflen cyn gwneud cais
Arian i Bawb
Eich Treftadaeth
Grantiau Treftadaeth
Grantiau Atgyweirio ar gyfer Mannau Addoli
Menter Treftadaeth Treflun
Parciau i Bobl
Partneriaethau Tirlun
Gwreiddiau Ifanc
Beth syn digwydd pan fyddwn ni rhoi grant
Pwy ydym ni?  Yn eich ardal chi  Canolfan Cyfryngau  Cyhoeddiau a gwybodaeth 


Gwreiddiau Ifanc (£3,000 i £25,000)

Gan ddarparu rantiau o rhwng £3,000 a £25,000, mae'r Rhaglen Gwreiddiau Ifanc yn anelu at gael pobl ifanc rhwng 13-25 mlwydd oed i fynd ati i ddarganfod eu treftadaeth, datblygu sgiliau, adeiladu hyder a hyrwyddo'u cysylltiadau â'r gymuned. Mae prosiectau Gwreiddiau Ifanc yn deillio'n uniongyrchol o ddiddordebau a syniadau pobl ifanc, gan harneisio eu creadigedd a'u hegni a'u helpu i weithio gydag eraill yn eu cymuned leol.

Ym mis Ebrill 2008 cyflwynon ni materion ymgeisio ac arweiniad newydd ar gyfer y rhaglen hon.  Yn ystod y flwyddyn trawsnewidiol hon byddwn ni'n dechrau asesu ceisiadau o dan y rhaglen newydd hon ar 1 Medi 2008 a gwneir penderfyniadau cyntaf o fewn 10 wythnos o dderbyn eich cais.

I dderbyn grant Gwreiddiau Ifanc rhaid i'ch prosiect fod yn ymwneud â threftadaeth amrywiol y DU a:

  • darparu cyfleoedd newydd i ystod ehagach o bobl ifanc rhwng 13 a 15 oed ddysgu am eu treftadaeth hwy a threftadaeth pobl eraill;
  • caniatáu pobl ifanc i arwain a chymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol ac ymrwymedig
    datblygu partneriaethau rhwng mudiadau ieuenctid a sefydliadau treftadaeth: a
  • chreu cyfleoedd i ddathlu llwyddiannau pobl ifanc yn y prosiect a rhannu'r hyn a ddysgwyd gyda'r gymuned ehangach.

Rhaid i'ch prosiect hefyd greu:

  • cyfleoedd i bobl ifanc wirfoddoli mewn treftadaeth; neu
  • gyfleoedd newydd i bobl ifanc ddatblygu sgiliau mewn adnabod, recordio, dehongli neu ofalu am dreftadaeth.

Dilynwch y camau isod i ymgeisio am grant:

CAM 1 - Cyn i chi ymgeisio
Cyn i chi ymgeisio am grant, darllenwch yr wybodaeth dilynol:


CAM 2 - Cyngor cyn ymgeisio

      Cyflwyno ffurflen cyn ymgeisio
    • Os ydych chi'n credu bod eich prosiect yn cyrraedd ein meini prawf am grant hwn, bydd yn bosib i chi llenwi a chyflwyno ein ffurflen holi cyn ymgeisio arlein cyn bo hir i dderbyn cymorth pellach am ymgeisio am grant.

CAM 3 - Cyflwyno cais

    • Bydd yn bosib i chi gyrchu'r ffurflen gais arlein yma cyn bo hir.

Fodd bynnag yn y cyfamser gallwch lawrlwytho fersiynau PDF o'r ffurflenni cais ac arweiniad o'r blwch ar y dde.


Where We Come From, Scotland
Wynebau Gwreiddiau Ifanc

DOGFENNAU GWREIDDIAU IFANC

  • Prosiectau Treftadaeth i Bobl Ifanc Model Ymarfer
  • Partneriaethau Ymarferol
  • Pecyn Mesur Gwerth 
  • Mesur Gwerth Gwreiddiau Ifanc 2006
  • Astudiaethau Achos ac esiamplau wedi'i weithio

  • DEUNYDD YMGEISIO Y GELLIR PRINTIO