Heritage Lottery Fund homepage
03/12/2008 Hafan>Sut i ymgeisio>Ein rhaglenni grantiau>Gwreiddiau Ifanc>Ai dyma'r un iawn i chi?
Sut i ymgeisio
Ein rhaglenni grantiau
Ffurflen cyn gwneud cais
Arian i Bawb
Eich Treftadaeth
Grantiau Treftadaeth
Grantiau Atgyweirio ar gyfer Mannau Addoli
Menter Treftadaeth Treflun
Parciau i Bobl
Partneriaethau Tirlun
Gwreiddiau Ifanc
Beth syn digwydd pan fyddwn ni rhoi grant
Pwy ydym ni?  Yn eich ardal chi  Canolfan Cyfryngau  Cyhoeddiau a gwybodaeth 


Gwreiddiau Ifanc
Ai dyma'r un iawn i chi?

1. Fydd eich prosiect yn cynnwys pobl ifanc rhwng 13 a 25 mlwydd oed?
Lluniwyd y cynllun hwn ar gyfer mudiadau sy'n gweithio gyda phobl sydd rhwng 13 a 25 mlwydd oed.  Dylai'r bobl ifanc gymryd rhan arweiniol a chymryd rhan mewn datblygu a gweithredu'r prosiect.

2. Ydy'ch prosiect chi'n ymwneud â Threftadaeth?
I ymgeisio am grant dan y rhaglen Gwreiddiau Ifanc bydd angen prosiect arnoch sy'n perthyn yn glir i dreftadaeth leol ac amrywiol ddiwylliannol y DU.  Mae treftadaeth yn cynnwys llawer o agweddau gwahanol o'r gorffennol yr ydym am eu trosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol.  Mae'r rhain yn amrywio o atgofion a phrofiadau pobl (yn aml yn cael eu recordio fel 'hanes llafar'); traddodiadau diwylliannol megis crefftau a gwisgoedd; adeiladau hanesyddol; bywyd gwyllt gan gynnwys cynefinoedd a rhywogaethau arbennig; casgliad o wrthrychau, llyfrau neu ddogfennau mewn amgueddfeydd llyfrgelloedd neu archifau a mannau a gwrthrychau cysylltiedig â'n hanes diwydiannol, morwrol a chludiant, megis pyllau glo dociau a rheilffyrdd.
Er enghraifft, gallai pobl ifanc wneud ymchwil mewn archifdy lleol neu waith ymarferol ar warchodfa natur.

3. Oes angen grant arnoch o £3,000 i £50,000?
Nid ydym yn rhoi grantiau dan £3,000 na thros £25,000 dan y rhaglen hon.

4. Fydd eich prosiect yn cael ei weithredu drwy bartneriaeth?
Rhaid i bob prosiect gael ei weithredu gan bartneriaeth. Rhaid i grwpiau ieuenctid weithio gydag o leiaf un partner treftadaeth (er enghraifft, eich ymddiriedolaeth bywyd gwyllt lleol neu amgueddfa) i weithredu'r prosiect. Rhaid i fudiadau treftadaeth weithio gydag un grw^p ieuenctid o leiaf.

5. Fydd eich prosiect yn creu cyfleoedd newydd  i bobl ifanc ddysgu am eu treftadaeth?
Bydd pob prosiect angen cael pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau i'w helpu i ddysgu mwy am eu treftadaeth hwy a threftadaeth pobl eraill.  Dylai eich prosiect helpu pobl ifanc i ddatblygu eu safbwyntiau eu hunain ynghylch treftadaeth.

6. Ydy'ch prosiect chi'n hyrwyddo cymryd rhan mewn gweithgareddau treftadaeth ar gyfer ystod o bobl ifanc, yn enwedig y rheiny nad ydynt wedi cymryd rhan mewn prosiectau treftadaeth o'r blaen?
Dylai pobl ifanc o wahanol alluoedd a chefndiroedd diwylliannol gael eu hannog i gymryd rhan yn eich prosiect. Dylai pob prosiect hyrwyddo gwerth treftadaeth i'r gynulleidfa mwyaf eang posibl.

7. Fydd eich prosiect yn dathlu llwyddiannau'r bobl ifanc?
Dylai pob prosiect gynnwys cydnabyddiaeth o lwyddiannau pobl ifanc a dathlu eu gwaith. Dylai eich prosiect gynnwys cyfleoedd i bobl ifanc rannu'r hyn a  ddysgwyd gyda'r gymuned ehangach.

8. Allwch chi gyfrannu at gostau'r prosiect?
Gallwn ariannu hyd at 100%, fodd bynnag rydym yn derbyn mwy o geisiadau grant na'r hyn y gallwn eu cefnogi.  Oherwydd hyn, gofynnwn i chi ond ymgeisio am yr hyn sydd angen arnoch a chyfrannu cymaint ag sy'n bosib fel arian parod, cyfraniadau di arian (er enghraifft, deunydd rhoddedig) neu amser gwirfoddoli.

9. Fydd y prosiect yn costio llai na £50,000 ac yn parhau am hyd at 18 mis?
Ni ddylai prosiectau Gwreiddiau Ifanc gostio mwy na £50,000 a dylid eu cwblhau o fewn 18 mis.


The Slave Teacher project, London
The Slave Teacher Project, Llundain


ADNODDAU GWREIDDIAU IFANC
CAM 1- DECHRAU
  • Ai dyma'r un iawn i chi?
  • Cwestiynau Codi'n Aml
  • Astudiaethau achos
  • Cynnwys pobl ifanc
    CAM 2-CYNGOR
  • Ffurflen cyn ymgeisio
    CAM 3- YMGEISIO
  • Ymgeisio ar lein