Mae Eich Treftadaeth yn darparu grantiau o rhwng £3,000 a £50,000 i gefnogi prosiectau sy'n perthyn i dreftadaeth leol, ranbarthol neu genedlaethol y DU. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n helpu pobl i ddysgu am dreftadaeth, ei gwarchod a'i dathlu mewn ffordd bleserus.
Mae gennym dri amcan a'r rheiny'n ymwneud â dysgu, cadwraeth a chyfranogiad.
I dderbyn grant rhaid i'ch prosiect:
- helpu pobl i ddysgu am eu treftadaeth hwy a threftadaeth pobl eraill.
Rhaid i'ch prosiect hefyd wneud un neu ddau o'r canlynol.
- Gwarchod treftadaeth amrywiol y DU er mwyn i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol eu profi a'u mwynhau.
- Helpu mwy o bobl, ac ystod ehangach o bobl, i gymryd rhan weithgar a gwneud penderfyniadau ynghylch treftadaeth.
Mae treftadaeth yn cynnwys llawer o agweddau gwerthfawr gwahanol o'r gorffennol yr ydym am eu trosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol. Gallai prosiectau treftadaeth gynnwys:
- atgofion a phrofiadau pobl
- hanes pobl, cymunedau, lleoedd a digwyddiadau
- traddodiadau diwylliannol
- adeiladau a threfluniau hanesyddol
- safleoedd archeolegol
- casgliad o eitemau, archifau a deunyddiau eraill
- tirluniau naturiol a gwneuthuredig
- cynefinoedd a rhywogaethau
- safleoedd a chasgliadau cysylltiedig â'n hanes diwydiannol a morwrol, a hanes trafnidiaeth.
Dilynwch y camau isod i ymgeisio am grant:
CAM 1 - Cyn i chi ymgeisio
Cyn i chi ymgeisio am grant, darllenwch yr wybodaeth dilynol:
CAM 2 - Cyngor cyn ymgeisio
Cyflwyno ffurflen ymgeisio arlein
- Os ydych chi'n credu bod eich prosiect yn cyrraedd ein meini prawf am grant hwn, bydd yn bosib i chi llenwi a chyflwyno ein ffurflen holi cyn ymgeisio arlein cyn bo hir i dderbyn cymorth pellach am ymgeisio am grant.
Cysylltu â'ch cyd-lynydd lleol
- Cysylltwch â Thîm Datblygu Cymru am gymorth a chyngor pellach.
CAM 3 - Cyflwyno cais
- Bydd yn bosib i chi gyrchu'r ffurflen gais arlein yma cyn bo hir.
Fodd bynnag yn y cyfamser gallwch lawrlwytho fersiynau PDF o'r ffurflenni cais ac arweiniad o'r blwch ar y dde.