1. Ydy'ch prosiect chi'n ymwneud â Threftadaeth?
I ymgeisio am grant dan y rhaglen Eich Treftadaeth mae angen prosiect arnoch sy'n ffocysu'n glir ar dreftadaeth. Mae treftadaeth yn cynnwys llawer o agweddau gwahanol o'r gorffennol yr ydym am eu trosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol. Mae'r rhain yn amrywio o atgofion a phrofiadau pobl (yn aml yn cael eu recordio fel 'hanes llafar'); traddodiadau diwylliannol megis crefftau a gwisgoedd; adeiladau hanesyddol; bywyd gwyllt, yn cynnwys cynefinoedd a rhywogaethau arbennig; casgliad o wrthrychau, llyfrau neu ddogfennau mewn amgueddfeydd, llyfrgelloedd neu archifau a mannau a gwrthrychau'n gysylltiedig â hanes diwydiannol,morwrol a chludiant, megis pyllau glo, dociau a rheilffyrdd.
2. Oes angen grant arnoch o £3,000 i £50,000?
Nid ydym yn rhoi grantiau o dan £3,000 na thros £50,000 dan y rhaglen hon.
3. Ydych chi'n fudiad sengl neu'n bartneriaeth?
Rydym yn croesawu ceisiadau oddi wrth fudiadau sengl a phartneriaethau (er enghraifft, partneriaeth rhwng mudiad treftadaeth a grw^p cymunedol). Rhaid i bob partneriaeth gael ei arwain gan fudiad dim er elw. Os oes perchnogion preifat yn gysylltiedig â'ch partneriaeth, rydym yn disgwyl i'r budd cyhoeddus ddaw o'r prosiect fod yn fwy nag unrhyw elw preifat.
4. All unigolion preifat ymgeisio am gyllid?
Gallant. Gall perchnogion preifat ymgeisio am brosiectau sy'n creu gweithgareddau ar gyfer y cyhoedd i ddysgu am a chymryd rhan ond mewn treftadaeth yn unig. Allan nhw ddim ymgeisio am waith cadwraeth h.y.gwaith cyfalaf. Rhaid i'r prosiectau fod er budd y cyhoedd yn hytrach nag elw preifat.
5. Allwch chi gyfrannu at gostau'r prosiect?
Gallwn ni ariannu hyd at 100%, fodd bynnag rydym yn derbyn mwy o geisiadau am grant na'r hyn allwn ni eu cefnogi. Oherwydd hyn, gofynnwn i chi ond ymgeisio am yr hyn sydd angen arnoch a chyfrannu cymaint ag sy'n bosib fel arian parod, cyfraniadau di arian (er enghraifft,deunydd rhoddedig) neu amser gwirfoddol.
6. Ydy'ch prosiect chi'n bodloni ein hamcanion?
Mae gennym dri amcan sy'n ymwneud â dysgu, cadwraeth a chyfranogiad. Nid oes raid i'ch prosiect fodloni pob un o'r tri amcan er mwyn ymgeisio am grant, ond rhaid bodloni'r cyntaf - dysgu. Rhaid i chi hefyd fodloni naill ai un ohonynt neu'r ddau amcan arall - cadwraeth a/neu gyfranogiad.
7. Fydd eich prosiect yn helpu pobl i ddysgu am eu treftadaeth eu hunain neu dreftadaeth pobl eraill?
Rhaid i bob prosiect roi'r cyfle i bobl ddysgu am eu treftadaeth. Er enghraifft, gallai hyn ddigwydd drwy arddangosfeydd, taflenni, cynnal diwrnodau agored, teithiau, neu hyfforddi pobl mewn sgiliau newydd.
8. Fydd eich prosiect yn diogelu a gwarchod ein treftadaeth?
Ar gyfer prosiectau fydd yn bodloni ein hamcan cadwraeth i ddiogelu a gwarchod treftadaeth gallai eich prosiect gynnwys atgyweiriadau i adeiladau hanesyddol neu gofgolofn; gwaith cadwraethol ar eitem, archif neu gasgliad treftadaethol; darparu hyfforddiant mewn sgiliau cadwraeth neu helpu pobl i ddeall eu treftadaeth yn well drwy gynnal arolygon ac ymchwil.
9. Fydd eich prosiect yn rhoi cyfleoedd i bobl gymryd rhan yn eich prosiect?
Ar gyfer prosiectau fydd yn bodloni ein hamcan cyfranogiad i roi cyfleoedd i bobl gymryd rhan yn eu prosiect, gallai eich prosiect gynnwys gweithgareddau ar gyfer cynulleidfaoedd penodol nad oes ganddynt gysylltiad â'ch treftadaeth neu ddatblygu rhaglen gwirfoddoli.
Os ydych wedi rhoi atebion CADARNHAOL i'r cwestiynau uchod gallech fod yn bodloni ein meini prawf i dderbyn arian dan y rhaglen hon. Darllenwch y Cyflwyniad i'r rhaglen Eich Treftadaeth a'r nodiadau Help am fwy o wybodaeth. Yna anfonwch ffurflen cyn ymgeisio i dderbyn cyngor ar beth i'w wneud nesaf.