Heritage Lottery Fund homepage
03/12/2008 Hafan>Yn eich ardal chi>Cymru>Cofio Caethwasiaeth 2007
Yn eich ardal chi
East of England
East Midlands
London
North East
North West
Northern Ireland
Scotland
South East England
South West
Cymru
West Midlands
Yorkshire & the Humber
Pwy ydym ni?  Sut i ymgeisio  Canolfan Cyfryngau  Cyhoeddiau a gwybodaeth 

Cofio Caethwasiaeth 2007


Cofio Caethwasiaeth 2007


Mae gan Gymru gysylltiadau llai amlwg â’r Gaethfasnach nag ardaloedd eraill y DU.  Fodd bynnag, gall y daflen wybodaeth ‘Oeddech chi'n gwybod?’ ddatgelu ffeithiau diddorol nad oeddech chi'n sylweddoli.

 

Cynhaliodd y prosiectau dilynol yng Nghymru i ddathlu deuganmlwyddiant dilead seneddol y gaethfasnach:

 

Traed Mewn Cyffion – Cymru a Chaethwasiaeth

Dyfarnwyd £43,700 i Amgueddfa Cymru a arianniwyd gweithdai, sgyrsiau ac ymweliadau treftadaeth i grwpiau cymunedol yn Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd edrych ar rôl Cymru wrth wrthwynebu a chynnal caethwasiaeth trawsiwerydd, tynnu sylw at hawliau dynol a masnach deg ac esbonio etifeddiaeth caethwasiaeth mewn cerddoriaeth fodern ac mewn diwylliant poblogaidd.

 

Siwgar a Chaethwasiaeth – Cyswllt Penrhyn

Arweiniodd Castell Penrhyn digwyddiadau yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i nodi’r Ddeddf Seneddol i ddileu’r fasnach caethweision.  Dyfarnwyd £45,700 i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i weithio â’r gymuned leol i archwilio cyswllt teulu Penrhyn i’r gaethfasnach i gynhyrchu arddangosfa.  Fel rhan o’r gwaith archwilio hyn, cysylltodd disgyblion Ysgol Llanllechid, Bangor â’u cyfoedion yn Jamaica a Lerpwl (porthladd caethwasiaeth mwyaf Prydain) i adlewyrchu eu hetifeddiaeth gyfrannol.


Codi Ymwybyddiaeth o Gaethfasnach Trawsiwerydd
Dyfarnwyd £22,500 i African Friendship Association a alluogodd pobl leol o darddiad Affricanaidd yn ogystal â’r gymuned dduon a lleiafrifoedd ethnig gyffredinol gymryd rhan yng ngwaithdai cerddoriaeth a dawns Affro-Caribïaidd traddodiadol.  Cynhyrchodd DVD, taflenni gwybodaeth a phecynnau addysg o ganlyniad cydweithio ag amgueddfeydd lleol i gynnal y gweithgareddau dysgu hyn.

 

Caneuon Adbryniant

Dyfarnwyd £46,000 i South Wales Intercultural Community Arts (SWICA).  Galluogodd y grant cymunedau lleol yn Abertawe a Chaerydd ddysgu am y gaethfasnach, ei dileu, ei pherthnasedd i De Cymru a’r buddion diwylliannol a chymdeithasol o ganlyniad Diaspora Du – hynny yw pobl duon yn gwasgaru ar draws y byd o’u mamwledydd.  Gweithio gyda’r amgueddfeydd yn y dwy ddinas, archwiliodd gwreiddiau caethwasiaeth carnifal MAS yn Abertawe, ymhlith pynciau eraill, i gynhyrchu DVD.


Chwerwfelys – Siwgar, Sbeis, Te a Chaethwasiaeth

Dyfarnwyd £203,500 i Gateway Gardens Trust i ddarganfod straeon dirgel tu ôl 30 o erddi a phlasdai hanesyddol gorau Cymru a’u cysylltiadau â chaethfasnach trwy raglen o ymweliadau tywys ac arddangosfa teithiol.  Er enghraifft, esboniodd sut adeiladwyd llawer o erddi hanesyddol a thai ysblennydd o ganlyniad arian a ennillodd o gaethwasiaeth – adeiladu llongau a ddefnyddiodd yn y fasnach neu ddefnyddio padelli copr, a gynhyrchwyd yng Nghymru, fel arian i brynu caethweision.

 

Mae’r cyswllt isod yn darparu gwybodaeth am sut nododd rhannau eraill y DU y penblwydd hwn:

 

Cofio Caethwasiaeth

 

Cyhoeddiadau eraill:

 



Cofio Caethwasiaeth 2007


CYSYLLTIADAU ALLANOL