Tirweddau, parciau a natur
Ers 1994, rydym wedi dyfarnu £2biliwn i 4,700 o brosiectau tir, natur a bioamrywiaeth ar draws y DU.
Diogelu'r amgylchedd yw un o'n pedair egwyddor fuddsoddi Treftadaeth 2033.
Rydym yn blaenoriaethu prosiectau tirwedd a natur sy'n:
- cefnogi adferiad byd natur
- cyflwyno atebion sy'n seiliedig ar fyd natur i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd
- ailgysylltu pobl â thirweddau, amgylcheddau morol a byd natur
Yr argyfwng hinsawdd
Mae gan y sector treftadaeth rôl bwysig i'w chwarae o ran gostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr a thaclo newid yn yr hinsawdd. Darganfod mwy am yr hyn yr ydym yn ei wneud i daclo’r argyfwng hinsawdd.
Yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan y prosiectau a ariannwn
Rydym eisiau i bob math o brosiectau treftadaeth, mawr a bach:
- gyfyngu ar unrhyw niwed posib i'r amgylchedd
- cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd ac yn enwedig ar fyd natur
Darllen ein harweiniad cynaladwyedd amgylcheddol.
Sut i gael eich ariannu
Mwy o wybodaeth
Darganfod pa brosiectau a ariannwn, a'r hyn y gallech chi ei wneud gyda'n buddsoddiad i helpu amddiffyn ein byd naturiol.
Cynefinoedd a rhywogaethau
Rydym yn cefnogi prosiectau sy'n gwarchod ac yn gwella cynefinoedd ac yn diogelu rhywogaethau gwerthfawr y DU.
Tirweddau
Disgwyliwn i brosiectau llwyddiannus ddangos sut y byddant yn mynd i'r afael â'r heriau allweddol a wynebir gan dirweddau a natur y DU.
Parciau cyhoeddus a mannau gwyrdd trefol
Mae parciau cyhoeddus yn wynebu gostyngiad difrifol mewn cyllid gan awdurdodau lleol. Dyma sut y gallwn helpu eich parciau a mannau gwyrdd trefol.
Gerddi a mynwentydd
Mae'r DU yn fyd-enwog am ei chyfoeth o barciau a gerddi hanesyddol. Dyma sut y gall ein cyllid helpu i ofalu amdanynt.
Programme
Lleoedd Lleol ar gyfer Natur - Chwalu Rhwystrau
Newyddion
Buddsoddi mewn lleoliadau gwaith i bobl ifanc mewn treftadaeth naturiol
Programme
Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) (rownd pump)
Newyddion
Reimagining Reality yn ennill Prosiect Cynaliadwy'r Flwyddyn
Blogiau
Canllaw ymarferol i recriwtio mwy cynhwysol
Blogiau
Green Futures: celf, sioeau drôn a'r sbectacl natur
Newyddion
£5miliwn i wella mynediad i natur a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd
Videos
Beth rydym yn ei olygu wrth dreftadaeth?
Newyddion
Pedwar prosiect ar y rhestr fer am ragoriaeth mewn cynaliadwyedd amgylcheddol
Straeon
Astudiaeth achos: Pwll Jiwbilî Penzance
Blogiau
Sut y gall grantiau 'bach' gael effaith fawr ar gymunedau
Programme