Cyfrannu eich safbwynt at ein prosiect ymchwil a datblygu newydd

Cyfrannu eich safbwynt at ein prosiect ymchwil a datblygu newydd

A collage of heritage types
Ymunwch â Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a The Young Foundation i archwilio'r cwestiwn: sut y gall arloesi ein helpu i wneud ein gorau glas ar gyfer dyfodol treftadaeth?

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cynnal ymchwil newydd i archwilio sut y gallwn gyflymu'r syniadau sy'n dod i'r amlwg sydd eu hangen i gefnogi treftadaeth yn y dyfodol.

Rydym am glywed eich mewnwelediad ar y cyfleoedd a'r heriau arloesi allweddol y mae treftadaeth yn eu hwynebu yn y tymor hwy.  

Ynghyd â'r Young Foundation rydym am glywed eich sylwadau ar y cyfleoedd a'r heriau arloesi allweddol y mae treftadaeth yn eu hwynebu yn y tymor hwy. 

Beth rydym yn ei wneud 

Rydym yn dod â phobl sy'n gweithio mewn gwahanol feysydd treftadaeth ledled y DU at ei gilydd i archwilio:

  • Beth yw'r heriau blaenoriaeth sy'n wynebu treftadaeth nawr ac yn y tymor hwy?
  • Beth sy'n gweithio o fewn a thu allan i wahanol feysydd treftadaeth mewn perthynas â'r heriau hyn?
  • Ble mae'r bylchau, a beth yw'r camau sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r rhain?

Pam ein bod yn gwneud hyn? 

Mae'r pandemig wedi amharu'n sylweddol ar sefydliadau treftadaeth. Mae wedi amlygu'r angen i gyflymu arloesedd mewn meysydd fel datblygu sgiliau a'r gweithlu, cynhyrchu incwm a phrofiad ymwelwyr.

Rydym yn cydnabod bod gennym rôl unigryw i'w chwarae yn y gofod hwn, yn unol â'r weledigaeth a nodir yn ein Fframwaith Ariannu Strategol o ysbrydoli, arwain a chefnogi treftadaeth y DU i greu newid cadarnhaol a pharhaol i bobl a chymunedau, nawr ac yn y dyfodol.  

Mae hwn yn bwynt hollbwysig i sicrhau na chollir cyfleoedd i gyflymu'r arloesi sydd ei angen i fynd i'r afael â heriau tymor hwy. 

Mae angen eich cymorth arnom

Mae eich mewnwelediad yn hanfodol i'r gwaith hwn. Rydym am ychwanegu gwerth at waith sydd eisoes ar y gweill ar draws y sector treftadaeth a thu hwnt, yn hytrach na'i ddyblygu.

Mae tair ffordd allweddol o gymryd rhan ar hyn o bryd:  

Derbyn diweddariadau a mynychu ein gweithdai

Ar 19 a 20 Ebrill rydym yn cynnal cyfres o weithdai. Bydd y rhain yn rhoi cyfle i ni archwilio heriau gwahanol gyda'n gilydd ac i chi gyfrannu eich safbwyntiau eich hun. 

Byddwn yn ceisio rhannu mewnwelediadau cynnar o'r prosiect wrth iddo fynd yn ei flaen. Ar 5 Mai, byddwn yn cynnal 'dangos a dweud' cynnar o'r cyfnod darganfod hwn lle gallwch roi adborth ar ganfyddiadau cynnar. 

Cofrestrwch eich diddordeb ar gyfer y gweithdai a'r digwyddiadau hyn.

Dywedwch wrthym am eich mewnwelediadau

Rydym yn cydnabod yr her o ymgysylltu â mentrau newydd ar hyn o bryd. Os ydych am gymryd rhan ond eich bod yn brin o amser, anfonwch un darn allweddol o ddarllen atom o gwmpas:

  • dyfodol neu her ddisgwyliedig i dreftadaeth
  • maes newydd sy'n dod i'r amlwg  
  • datblygiadau arloesol y gellir eu trosglwyddo o sectorau eraill

Cyflwynwch eich mewnwelediadau.

Rhannwch

Rydym am roi'r cyfle i wahanol bobl gymryd rhan yn y broses ymchwil. Mae hyn yn hanfodol i'n gwaith mewn partneriaeth â'r Young Foundation.

Byddwn yn mynd ati'n rhagweithiol i estyn allan at ystod amrywiol o leisiau y tu hwnt i rwydweithiau sy'n bodoli eisoes. Byddwn yn cynnig cymorth ac adnoddau i helpu pobl i gymryd rhan.

Helpwch ni drwy rannu hyn gyda'ch cydweithwyr, cysylltiadau a rhwydweithiau. 

Ynglŷn â'r Young Foundation

Mae'r Young Foundation yn gweithio gyda phobl a chymunedau i ddeall a gweithredu ar y materion y maent yn poeni amdanynt.

Mae ganddynt etifeddiaeth o 60 mlynedd mewn arloesi yn y maes cymdeithasol. Fel sefydliad ymchwil achrededig Ymchwil ac Arloesi yn y DU, deorydd cymdeithasol ac elusen, maent yn dod â chymunedau, busnesau, arloeswyr, entrepreneuriaid a llunwyr polisi at ei gilydd i helpu i adeiladu cymunedau cryfach a datrys y materion pwysicaf mewn cymdeithas.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y gwaith hwn, cysylltwch â: research@youngfoundation.org.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...