Dyfarnu £193,502 i brosiectau treftadaeth lleol ledled Cymru

Dyfarnu £193,502 i brosiectau treftadaeth lleol ledled Cymru

Y 'pillbox' ym Mhontypridd
Dadorchuddio y 'pillbox' ym Mhontypridd
Mae 'pillbox' o'r Ail Ryfel Byd ym Mhontypridd a pharc poblogiadd yn Llansawel ymysg y 24 prosiect i dderbyn nawdd Trysorau'r Filltir Sgwâr.

Mae'r £193,502 yn cael ei rannu gan brosiectau sydd yn cysylltu cymunedau gyda'u treftadaeth leol a mae'r rhaglen grant wedi ei seilio ar y syniad o'r enw y ddinas 15 munud

Mewn dinas 15 munud, mae modd cyflawni'r mwyafrif o anghenion beunyddiol naill ai trwy gerdded neu feicio o gartrefi preswylwyr. Dyma’r ail flwyddyn i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol redeg y rhaglen gyda Cadw - gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru.

Yng Nghymru rydym wedi ein hamgylchynu gan dreftadaeth, nid yn unig yn ein hamgueddfeydd, ein cestyll a'n strwythurau hanesyddol, ond mewn unrhyw beth sy'n ysbrydoli ymdeimlad o berthyn 

Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon

Mae treftadaeth yn ein hamgylchynu

“Yng Nghymru rydym wedi ein hamgylchynu gan dreftadaeth, nid yn unig yn ein hamgueddfeydd, ein cestyll a'n strwythurau hanesyddol, ond mewn unrhyw beth sy'n ysbrydoli ymdeimlad o berthyn,” meddai'r Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon Dawn Bowden.

“Rwy’n falch bod Cadw unwaith eto yn cydweithredu â Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i helpu cymunedau i archwilio, dathlu a rhannu eu straeon treftadaeth leol.”

Palwch am Fuddugoliaeth

Mae prosiect 'pillbox' Ail Ryfel Byd Cyngor Tref Pontypridd yn derbyn £7,100 i osod rhandir ger yr heneb yn Trallwn fel plot "Palwch am Fuddugoliaeth".

Bydd gwirfoddolwyr yn tyfu cnydau y byddai pobl gyffredin wedi'u tyfu i ychwanegu at eu diet amser rhyfel.

Mae lloches bom Anderson haearn rhychog yn cael ei hadeiladu ar un ochr i'r rhandir a bydd plant yn gallu ymweld â'r 'pillbox'.

 

Lloches i'r gymuned

A patio area in Jersey Park
Safle y lloches newydd ym Mharc Jersey yn Llansawel

Bydd Friends of Jersey Park Llansawel yn derbyn £10,000 i adeiladu lloches i annog mwy o bobl i ddefnyddio'r parc.

Bydd grwpiau garddio yn gallu cyfarfod yn ystod tywydd gwael a gall y gymuned ehangach ddysgu am dreftadaeth hanesyddol, naturiol a chymdeithasol y parc.

Bydd y lloches hefyd yn annog pobl ag anableddau corfforol i ddefnyddio'r parc a helpu i ail-greu ymdeimlad o berchnogaeth gymunedol ar dreftadaeth leol.

 

Andrew White of The National Lottery Heritage Fund in Wales
Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru

Mae treftadaeth i bawb

“Mae treftadaeth ar gyfer pawb a threftadaeth leol - p'un a yw hynny'n adeilad, yn dirnod, yn warchodfa natur neu hyd yn oed ein siop leol, yn helpu i greu a siapio ein cymunedau," meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.

“Mae wedi bod yn bleser gweithio eto eleni gyda Cadw ar y gronfa Trysorau'r Filltir Sgwâr a chefnogi hyd yn oed mwy o gymunedau ledled Cymru i gysylltu â'u treftadaeth leol.

“Mae’n rhaglen boblogaidd iawn. Trwyddo, i gyd, rydym wedi ariannu mwy na 120 o brosiectau ledled y wlad dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac wedi darparu dros £600,000 mewn grantiau." 

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...