Ymunwch â ni ar gyfer Diwrnod Trysorau Treftadaeth 11 Ionawr 2022

Ymunwch â ni ar gyfer Diwrnod Trysorau Treftadaeth 11 Ionawr 2022

Pobl yn eistedd ar fainc mewn amgueddfa, yn pwyntio ac yn edrych ar arddangosfa
Painted Hall. Credyd: Alys Tomlinson
Rydym yn dechrau'r Flwyddyn Newydd drwy ddathlu treftadaeth gyfoethog ac amrywiol y DU – ac rydym am i chi gymryd rhan.

Ymunwch â ni ddydd Mawrth 11 Ionawr 2022 i nodi diwrnod #TrysorauTreftadaeth. Mae'n foment ar y cyfryngau cymdeithasol a sefydlwyd gennym i ddathlu prosiectau treftadaeth gwych o bob math yr ydym wedi'u cefnogi dros y blynyddoedd ledled y DU.

A mountain and lake scenery of Llyn Ogwen in Wales, covered in snow
Tirwedd aeafol syfrdanol Llyn Ogwen ger Bethesda, Gwynedd

Beth bynnag yw eich trysorau treftadaeth, cymerwch ran yn y sgwrs ar-lein ar y diwrnod. Gallai rhai syniadau gynnwys:

  • eitem gasglu ysbrydoledig
  • parc lleol y buoch yn ymweld ag ef drwy gydol y pandemig
  • yr anifeiliaid a welwch yn eich gardd
  • uchafbwynt amgueddfa 
  • stori dreftadaeth sy'n bwysig i chi neu'ch sefydliad

Efallai eich bod wedi mwynhau neu greu rhaglen dreftadaeth ar-lein arloesol, efallai yr hoffech ddweud diolch wrth eich staff a'ch gwirfoddolwyr treftadaeth, neu efallai yr hoffech chi gynhoeddi eich prosiect a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

The outside of Hillsborough Castle and its gardens in sunrise
Castell a gerddi hardd Hillsborough yng Ngogledd Iwerddon

Sut i gymryd rhan

Rhannwch eich #TrysorauTreftadaeth gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio'r hashnod ar 11 Ionawr a thagiwch @HeritageFundCYM /  @HeritageFundUK.

Postiwch lun ysbrydoledig a rhowch wybod i ni pam rydych chi wedi'i ddewis. Cofiwch archwilio'r hyn y mae pawb arall wedi'i ddewis hefyd. Byddwn yn rhannu detholiad o'r rhai gorau.

Allwn ni ddim aros i ddathlu ein holl drysorau treftadaeth anhygoel ledled y DU a gweld beth fyddwch chi'n ei rannu ar y diwrnod!

Porwch drwy enghreifftiau o'r gorffennol: #HeritageTreasures - Twitter Search / Twitter 

Dod o hyd i brosiectau eraill

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy, neu os hoffech gael ffynhonnell ysbrydoliaeth arall, edrychwch ar rai o'r prosiectau gwych rydym wedi'u hariannu.